Llid y tonsiliau yw tonsilitis, cyflwr sydd fel arfer yn datblygu'n gyflym.[1] Math o ffaryngwst ydyw.[2] Gall symptomau gynnwys dolur ynghylch y gwddf, twymyn, tonsiliau chwyddedig, trafferthion wrth lyncu, ac ehangiad yn y nodau lymff o gwmpas y gwddf. Mae modd i'r cyflwr arwain at gymhlethdodau, gan gynnwys crawniad peritonsilaidd.[3]

Tonsilitis
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathupper respiratory tract disease, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauLlid, oerni edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Achosir tonsilitis fel arfer gan haint firaol ac y mae oddeutu 5% i 40% o achosion yn datblygu oherwydd haint bacteriol.[4][5] Pan achosir y cyflwr gan y grŵp bacteriwm A streptococws, cyfeirir ato fel gwddf strep.[6] Nid yw bacteria megis Neisseria gonorrhoeae, Corynebacterium diphtheriae, neu Haemophilus influenzae yn achosi'r cyflwr fel arfer. Lledaenir yr haint fel rheol drwy'r awyr. Gall system sgorio, fel sgôr Centor, gynorthwyo wrth wahanu achosion gwahanol. Gellir cadarnhau diagnosis drwy swab gwddf neu brawf strep cyflym.[4]

Wrth drin y cyflwr gwneir ymdrech i wella symptomau a gostwng cymhlethdodau. Gellir defnyddio parasetamol (asetaminoffen) ac ibuprofen i ostwng poenau. Os mai strep y gwddf sy'n bresennol, caiff y gwrthfiotig penisilin ei argymell fel rheol. Gall rhai dioddefwyr fod ag alergedd tuag at benisilin, ac mewn achosion felly, defnyddir seffalosborin neu macrolidiau i drin tonsilitis. Cynigir tonsilectomi i rai plant sy'n profi cyfnodau rheolaidd o donsilitis. Mae'r driniaeth honno'n lleihau'r risg o donsilitis dychweladwy yn gymedrol.[7]

Mae tua 7.5% o bobl yn dioddef poen ynghylch y gwddf o leiaf unwaith bob tri mis, ac mae oddeutu 2% o'r boblogaeth yn ymweld â meddyg ar gyfer tonsilitis yn flynyddol.[8] Effeithir y cyflwr blant oed ysgol yn bennaf, yn enwedig yn ystod tymhorau'r hydref a'r gaeaf. Gwellir y rhan fwyaf o achosion gyda meddyginiaeth, neu hebddynt hyd yn oed. Mewn oddeutu 40% o achosion, gwellir y symptomau o fewn tridiau, a 80% o achosion o fewn wythnos, hyd yn oed os mae streptococws yn bresennol. Mae gwrthfiotigau yn lleihau hyd symptomau tua 16 awr.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tonsillitis". PubMed Health. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 January 2017. Cyrchwyd 30 September 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Tonsillitis". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 March 2016. Cyrchwyd 4 August 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Klug, TE; Rusan, M; Fuursted, K; Ovesen, T (August 2016). "Peritonsillar Abscess: Complication of Acute Tonsillitis or Weber's Glands Infection?". Otolaryngology--head and neck surgery : official journal of American Academy of Otolaryngology-Head and Neck Surgery 155 (2): 199–207. doi:10.1177/0194599816639551. PMID 27026737.
  4. 4.0 4.1 Windfuhr, JP; Toepfner, N; Steffen, G; Waldfahrer, F; Berner, R (April 2016). "Clinical practice guideline: tonsillitis I. Diagnostics and nonsurgical management.". European Archives of Oto-Rhino-Laryngology 273 (4): 973–87. doi:10.1007/s00405-015-3872-6. PMID 26755048.
  5. Lang, Florian (2009). Encyclopedia of Molecular Mechanisms of Disease (yn Saesneg). Springer Science & Business Media. t. 2083. ISBN 9783540671367. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-02. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Ferri, Fred F. (2015). Ferri's Clinical Advisor 2016: 5 Books in 1 (yn Saesneg). Elsevier Health Sciences. t. PA1646. ISBN 9780323378222. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-02. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Windfuhr, JP; Toepfner, N; Steffen, G; Waldfahrer, F; Berner, R (April 2016). "Clinical practice guideline: tonsillitis II. Surgical management.". European Archives of Oto-Rhino-Laryngology 273 (4): 989–1009. doi:10.1007/s00405-016-3904-x. PMID 26882912.
  8. Jones, Roger (2004). Oxford Textbook of Primary Medical Care (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 674. ISBN 9780198567820. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-18. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. Spinks, A; Glasziou, PP; Del Mar, CB (5 November 2013). "Antibiotics for sore throat.". The Cochrane Database of Systematic Reviews 11: CD000023. doi:10.1002/14651858.CD000023.pub4. PMID 24190439.