Torra d'Albu

tŵr Genoa yng Nghorsica

Mae Tŵr Albu (Corseg: Torra d'Albu) yn dŵr Genoa adfeiliedig sydd wedi ei leoli yn commune Ogliastro (Haute-Corse) ar orllewin arfordir y Cap Corse ar ynys Corsica.

Torra d'Albu
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOgliastro Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.8081°N 9.33389°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Mae'r tŵr yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a tua 1620 i atal ymosodiadau gan y môr-ladron Barbari. Cafodd y tŵr ei ddifrodi ym 1588 pan ymosododd Hassan Veneziano ar bentref cyfagos, Ogliastro, a chipio  nifer o'r pentrefwyr.[1] Mae rhestr o'r tyrau amddiffynnol arfordir Corsica a luniwyd gan awdurdodau Genoa ym 1617 yn cofnodi bod y tŵr yn cael ei warchod gan ddynion o bentrefi Ogliastro a Olcani, ond dim ond yn ystod y nos.[2]

Ym 1992 cafodd y tŵr ei restru fel un o henebion hanesyddol  Ffrainc.[3]

Mae gan y tŵr nifer o enwau eraill: Torra di Ogliastro, Torra dOlcini a Torre del Greco

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 90. ISBN 2-84050-167-8.
  2. Graziani, Antoine-Marie (1992). Les Tours Littorales. Ajaccio, France: Alain Piazzola. t. 136, no. 68. ISBN 2-907161-06-7.
  3. "Monuments historiques: Tour d'Albo, dite aussi d'Olchini ou del Greco". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014..

Dolenni allanol golygu


Oriel golygu