Tyrau Genoa yng Nghorsica

Mae Tyrau Genoa yng Nghorsica (Ffrangeg Tours génoises de Corse, Corseg Torri ghjinuvesi di a Corsica) yn gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan y môr-ladron Barbari.

Tyrau Genoa yng Nghorsica
Daearyddiaeth
Tŵr Genoa ar y Capu di Maru

Roedd Corsica wedi cael ei reoli gan Genoa ers 1284 wedi iddynt sefydlu eu goruchafiaeth dros Weriniaeth Pisa yn y frwydr forol, Brwydr Meloria. Tua diwedd y 15g, roedd  Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ehangu ei reolaeth o'r môr Canoldir i'r gorllewin, a daeth yn rym morwrol amlwg yn y rhanbarth. Ym 1480 gwnaethant anrheithio Otranto yn ne'r Eidal ac ym 1516 bu iddynt drechu a dechrau rheoli Alger. Yn negawdau cyntaf y 16 ganrif dechreuodd corsairs Twrcaidd ymosod ar bentrefi o amgylch arfordir Corsica. Cafodd llawer o gannoedd o bentrefwyr eu cipio i gael eu gwerthu fel caethweision. Bu i Weriniaeth Genoa ymateb drwy adeiladu cyfres o dyrau o amgylch yr arfordir. Roedd y rhan fwyaf yn cael eu cynllunio ar ffurf gron gyda theras to wedi ei amddiffyn gyda rhyngdyllau (tyllau i daflu pethau megis cerrig, olew berw ac ati ar ben ymosodwr). Cafodd bron i gant eu hadeiladu cyn i Genoa penderfynu tua 1620 nad oeddynt yn llwyddo i amddiffyn yr ynys a rhoi'r gorau i'r rhaglen adeiladu.

Ym 1794, yn ystod Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc, methodd llynges Prydain i gipio tŵr Genoa ger y Punta Mortella, un o'r ddau dŵr oedd yn warchod y fynedfa i borthladd Saint-Florent. Wedi i effeithiolrwydd a dylunio syml y tŵr creu argraff arnynt, penderfynodd gweinyddiaeth amddiffyn Prydain i godi llawer o adeiladau tebyg ar arfordiroedd Prydain gan eu galw'n Dyrau Martello.

Mae adfeilion y tyrau Genoa bellach yn nodwedd amlwg o arfordir Corsica. Mae llawer wedi cael eu rhestru'n swyddogol fel Henebion Hanesyddol gan Weinyddiaeth Diwylliant Ffrainc.

Adeiladwaith golygu

Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r tyrau yn dechrau'r 16g, ar gais y cymunedau er mwyn iddynt gael diogelu eu hunain yn erbyn y môr-ladron. Ym 1531 Danfonodd Banc San Siôr Genoa dau gynrychiolydd arbennig, Paolo Battista Calvo a Francesco Doria, i archwilio'r modd roedd yr ynys yn cael ei amddiffyn rhag y Môr-ladron Barbari.[1][2] Penderfynwyd cychwyn ar y gwaith o adeiladu naw deg o dyrau ar arfordir Corsica.

Dechreuodd y gwaith o dan oruchwyliaeth Sebastiano Doria a Pietro Filippo Grimaldi Podio. Y nod oedd ymestyn i Gorsica y system gwyliadwriaeth oedd eisoes mewn grym mewn rhannau eraill o'r môr Canoldir. Roedd y tyrau i berfformio tair swyddogaeth: amddiffyn y pentrefi a phorthladdoedd; gweithredu fel tirnodau ar gyfer llywio llongau a chaniatáu i newyddion am ymosodiad lledu'n gyflym i gymunedau eraill ar hyd yr arfordir.[3]

Mae cofrestr o'r tyrau a gynhyrchwyd gan yr awdurdodau ym 1617 yn cofnodi bodolaeth 86 tŵr.[4] Cafodd dau dŵr ychwanegol  eu hadeiladu ar ôl creu'r gofrestr a rhoi'r gorau i'r cynllun adeiladu. Y ddau oedd Torra di Sponsaglia (a gwblhawyd ym 1619) a Torra di Sant'Amanza (a gwblhawyd ym 1620) y ddau yn ne Corsica rhwng Bonifacio a Porto-Vecchio. O 88 tŵr, mae ugain lle mae ychydig iawn neu ddim olion wedi goroesi. Roedd dau dŵr ar y rhestr oedd eisoes mewn cyflwr adfeiliedig ym 1617: y Torra di Vignale a Torra di Travo, y ddau ar arfordir y dwyrain.[5]

Swyddogaeth golygu

Roedd garsiwn tŵr yn cynnwys rhwng dau a chwech o ddynion (Corseg torregiani), wedi eu recriwtio o blith y trigolion ac yn cael eu talu o drethi lleol. Roedd y gwarchodwyr yn byw yn barhaol yn y tŵr. Roedd ganddynt ganiatad i adael y tŵr am ddim mwy na deuddydd ar y tro er mwyn casglu eu cyflogau a phrynu cyflenwadau. Dim ond un gwarcheidwad oedd yn gallu ymadael ar y tro. Dyletswydd y gwarchodwyr oedd cadw golwg am elynion a  gosod tanau a signalau rhybudd. Bob bore a gyda'r nos roeddent  yn ymgynnull ar y llwyfan, gan roi gwybod i fugeiliaid, morwyr a ffermwyr am ddiogelwch.

 
Torra di Capiteddu: yn dangos y rhyngdyllau amddiffynnol

O weld môr-ladron, roedd signal yn cael ei ddanfon o'r teras ar ben y tŵr, ar ffurf mwg, tân neu sain o culombu (trymped cregyn mawr). O glywed neu weld signal rhybudd o berygl byddai'r trigolion yn symud eu teuluoedd ac anifeiliaid i ffwrdd o'r arfordir. O weld signal o un tŵr byddai'r tyrau agos yn danfon signal hefyd gan ei wneud yn bosibl i roi rhybudd o ymosodiad i'r ynys gyfan mewn ychydig iawn o amser.

Doedd yr awdurdodau dim yn rhoi digon o arfau i warchodwyr y tyrau. Roedd y gwarchodwyr yn aml yn esgeuluso eu rôl filwrol ac yn defnyddio eu tyrau i godi tollau ar longau masnachol. 

Pensaernïaeth golygu

 
Croesolwg o'r Torra di a Parata

Roedd y tyrau yn cael eu hadeiladu o flociau carreg yn cael eu dal at ei gilydd gan forter. Roedd y rhan fwyaf o'r tyrau ar siâp cylch er bod ychydig yn sgwâr, megis y Torra di Portu a Torra di Pinareddu.[6] Roedd y tyrau crwn fel arfer yn 12 metr (39 troedfedd) mewn uchder a 10 metr (33 troedfedd) o ddiamedr ar y gwaelod yn gostwng i 7 metr (23 troedfedd) ar lefel y llawr cyntaf.[7][8] Roedd y sylfaen yn cynnwys seston a oedd yn cael ei lenwi â dŵr glaw trwy bibellau yn rhedeg o'r teras. Roedd ystafell gromennog  ar y llawr cyntaf. Roedd modd mynd o'r ystafell gromennog i'r teras trwy ddringo grisiau oedd wedi eu hadeiladu ar y wal allanol a'u diogelu ar ben y tŵr gan dyred (darn o dŵr mwy o led na'r tŵr oddi tano). Roedd y teras yn cael ei amgylchynu gan ryngdyllau amddiffynnol roedd y gwarchodwyr yn gallu defnyddio i daflu pethau megis cerrig neu saim berw ar ben ymosodwyr. Roedd drws mynediad y tŵr ar lefel y llawr cyntaf ac yn cael ei gyrraedd trwy ddefnyddio ysgol bren  symudadwy. Roedd rhai o'r tyrau yn dalach ar tua 17 metr (56 troedfedd) o uchder ac yn cynnwys ail ystafell gromennog uwchben y cyntaf. Enghreifftiau o dyrau talach yw y Torra di a Parata ger Ajaccio a'r Torra di Santa Maria Chjapella yn Capicorsu.[9] Roedd y gwarchodwyr yn cynnwys  swyddog a dau neu dri o filwyr a oedd yn byw yn yr ystafell ar y llawr cyntaf. Roedd  cilfachau yn  waliau'r ystafelloedd cromennog a lle tân.[10]

Dirywiad golygu

Achosodd y tyrau problemau lluosog i awdurdodau Genoa. Roedd eu lleoliadau ynysig yn eu gwneud yn brif dargedau ar gyfer môr-ladron. Roedd diffygion yn y gwaith adeiladu yn achosi iddynt ddymchwel yn hawdd. Bu'n rhaid i Weriniaeth Genoa hefyd  delio gyda llawer o wrthdaro ariannol, ffraeo rhwng gwahanol gymunedau, gwarchodwyr yn ffoi neu'n cynorthwyo'r gelyn i achub eu crwyn eu hunnain, dyledion heb eu talu a cheisiadau parhaus ar gyfer cyflenwadau ac arfau.

O ganlyniad, o ddiwedd yr 17g hyd 1768, adeg goncwest yr ynys gan Ffrainc, roedd y nifer o dyrau oedd yn cael eu cynal wedi gostwng yn sylweddol. Pan etholwyd Pasquale Paoli yn Arlywydd newydd annibynnol Weriniaeth Corsica ym 1755, dim ond 22 o dyrau gweithredol oedd ar ôl. Cafodd rhai ohonynt eu meddiannu gan filwyr Ffrengig. Achosodd yr herwfilwra parhaus yn ystod Arlywyddiaeth Paoli dinistr i nifer o'r adeiladau, gan gynnwys y tyrau Tizzano, Caldane a Solenzara. Yn y frwydr i sicrhau glaniad milwyr Prydain wrth greu Teyrnas Brydeinig Corsica  ym 1794, difrodwyd tyrau Santa Maria della Chiappella a Mortella. Erbyn diwedd y 18 ganrif, ychydig iawn o'r tyrau oedd dal yn gyfan.

Treftadaeth golygu

Heddiw, mae tyrau Genoa yn cynrychioli rhan bwysig o dreftadaeth ynys Corsica. O'r 85 o dyrau oedd yn sefyll ar ddechrau'r 18 ganrif mae 67 yn dal i sefyll heddiw. Mae rhai yn adfeilion; mae eraill mewn cyflwr gweddol dda. Mae llawer ohonynt wedi cael eu dynodi yn  fel Monuments historiques.

Mae rhywfaint o waith pwysig wedi ei wneud i adfer rhai o'r tyrau wedi ei ariannu gan yr awdurdodau lleol. Ond o herwydd diffyg moddion i warchod y cyfan mae llawer o'r symbolau hyn o hanes yr ynys yn parhau i ddirywio.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani 1992, tt. 17-18.
  2. Graziani 2000, t. 80.
  3. Graziani 2000, t. 73.
  4. Graziani 1992, tt. 134-137.
  5. Graziani 1992, t. 135.
  6. Colombani, Philippe; Harnéquaux, Mathieu; Istria, Daniel (2008). "Les tours génoises". L'Alta Rocca (PDF). Centre Régional de Documentation Pédagogique de Corse. tt. 15–16. ISBN 978-2-86-620-212-5. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-03-19. Cyrchwyd 2018-07-30.
  7. Fréminville 1894, t. 48.
  8. Istria, Daniel; Harnéquaux, Mathieu. "La protection du littoral : un enjeu majeur aux XVIe et XVIIe siècles". Sevi - Sorru Cruzzini - Cinarca (PDF). Centre Régional de Documentation Pédagogique de Corse. tt. 17–20. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2018-07-30.
  9. Fréminville 1894, t. 51.
  10. Document d’objectifs NATURA 2000, Iles Pinarellu et Roscana, Zone spéciale de conservation FR9400585 (PDF). Conservatoire de l’Espace Littoral et des Rivages Lacustres. 2010. t. 31. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-05-24. Cyrchwyd 2018-07-30.

Ffynonellau golygu

Darllen pellach golygu

  • Braudel, Fernand (1995) [1973]. The Mediterranean and the Mediterranean World in the Age of Philip II. Volume 2. Renolds, Sîan trans. Berkeley, CA: University of California Press. ISBN 978-0-520-20330-3.
  • Graziani, Antoine-Marie (2001). "La menace barbareque en Corse et la construction d'un système de défense (1510-1610)". Revue d'histoire maritime (2-3): 141-160.
  • Mérimée, Prosper (1840). Notes d'un voyage en Corse. Paris: Fournier jeune. tt. 163–165.
  • Phillips, Carla Rahn (2000). "Navies and the Mediterranean in the early modern period". In Hattendorf, John B (gol.). Naval Strategy and Power in the Mediterranean: Past, Present and Future. Abingdon, Oxon, UK: Frank Cass. tt. 3–29. ISBN 0-7146-8054-0.
  • Sutcliffe, Sheila (1973). Martello Towers. Cranbury, NJ: Associated Universities Press. ISBN 0-8386-1313-6.

Dolenni allanol golygu

  • Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-11. Cyrchwyd 2018-07-30. Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.