Môr-ladron Barbari

Roedd y Môr-ladron Barbari, a elwir weithiau yn Corsairs Barbari neu Corsairs yr Otomaniaid , yn fôr-ladron o Ymerodraeth yr Otomaniaid a phreifatiriaid bu'n gweithredu o Ogledd Affrica.

Môr-ladron Barbari
Mathgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Brwydr Môr gyda Corsairs Barbari  gan Laureys a Castro, c. 1681
Morwyr prydeinig fynd ar fwrdd llong môr-ladron o Algeria
Môr-leidr Barbari, Pier Francesco Mola 1650
Bu'r môr-ladron Barbari yn aml yn ymosod ar Corsica, gan arwain at adeiladu llawer o dyrau Genoa ar yr ynys.

Ardal Gweithgaredd golygu

Roedd y môr-ladron Barbari yn weithredol yn bennaf o borthladdoedd Salé, Rabat, Alger, Tiwnis, a Tripoli. Roedd yr ardal hon yn cael ei hadnabod yn Ewrop fel yr Arfordir Barbari, term sy'n deillio o enw ei drigolion y Berber. Roedd eu hardal ysglyfaethu yn ymestyn drwy gydol Y Môr Canoldir, ar hyd arfordir Gorllewin Affrica ac ar hyd Gogledd yr Iwerydd mor bell â Gwlad yr Iâ. Eu prif faes gweithredu oedd gorllewin y môr Canoldir. Yn ogystal â chipio llongau masnach, roeddynt hefyd yn gwneud Razzias, cyrchoedd ar drefi a phentrefi arfordirol, yn bennaf yn yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, a Phortiwgal, ond hefyd yn Ynysoedd Prydain, yr Iseldiroedd ac mor bell i ffwrdd â gwlad yr Iâ. Prif bwrpas eu hymosodiadau oedd dal Cristnogion yn gaethweision ar gyfer masnach caethwasanaeth yr Otomaniaid â'r fasnach caethwasanaeth Arabaidd yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol.[1]

Hanes golygu

Er bod cyrchoedd o'r fath wedi digwydd ers yn fuan wedi'r goncwest Fwslimaidd o Iberia, mae'r termau "Môr-ladron Barbari" fel arfer yn cyfeirio at y gwylliaid oedd yn weithredol o'r 16 ganrif ymlaen, pan gafodd ystod ac amlder yr ymosodiadau eu cynyddu. Yn y cyfnod hwnnw daeth Algiers, Tunis a Tripoli o dan sofraniaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid, un ai fel taleithiau neu fel dibyniaethau a oedd yn cael eu hadnabod fel y Taleithiau Barbari. Bu cyrchoedd tebyg yn deillio o Salé a phorthladdoedd eraill Moroco hefyd.

Bu i fôr-ladron Barbari dal miloedd o longau masnach ac ymosod yn barhaus ar drefi arfordirol. O ganlyniad, bu trigolion yn gadael eu hen bentrefi ar hyd darnau hir o arfordir Sbaen a'r Eidal. Cafodd rhwng 100,000 a 250,000 o Iberiaid eu caethiwo gan y cyrchoedd.[2]

Roedd cyrchoedd o'r fath yn broblem i aneddiadau arfordirol hyd y 19 ganrif. Rhwng 1580 a 1680 honnir bod y mor-ladron wedi dal  850,000 o bobl fel caethweision ac o 1530 i 1780 cymaint â 1,250,000. Fodd bynnag, mae'r niferoedd hyn wedi cael eu hamau gan yr hanesydd David Earle. Bu rhai o'r mor-ladron yn alltudion o dras Ewropeaidd megis John Ward,  Zymen Danseker,[3] Hayreddin Barbarossa ac Oruç Reis. Daeth y môr-ladron Ewropeaidd hyn â thechnegau hwylio ac adeiladu llongau gwell i Arfordir Barbari yn y 1600au, a oedd yn galluogi'r corsairs i ehangu eu gweithgareddau i Gefnfor yr Iwerydd. Cyrhaeddodd cyrchoedd y Barbari eu huchafbwynt o ddechrau i ganol yr 17 ganrif.

Diwedd y môr-ladron golygu

Ymhell wedi i'r Ewropeaid rhoi'r gorau i longau rhwyfo o blaid llongau hwylio oedd yn gallu cario tunnell o fagnelau pwerus, bu'r Barbari yn parhau i ddefnyddio rhwyflongau yn cario cant neu fwy o ddynion wedi eu harfogi gyda cytlasau ac arfau bychain. Pan fyddant yn dod ar draws ffrigad Ewropeaidd byddent yn ffoi.[4]

Dechreuodd gweithgaredd y mor-ladron Barbari leihau yn y rhan olaf y 17g,[5] wrth i'r llyngesau Ewropeaidd mwy pwerus gorfodi'r gwladwriaethau Barbari i wneud heddwch a rhoi'r gorau i ymosod ar eu llongau. Fodd bynnag, bu llongau ac arfordiroedd gwledydd Cristnogol heb y fath amddiffyniad morwroll yn parhau i ddioddef hyd yn gynnar yn y 19 ganrif. Yn dilyn y Rhyfeloedd yn erbyn Napoleon a Chyngres Fienna ym 1814-15, cytunodd y pwerau Ewropeaidd bod angen atal y môr-ladron Barbari yn gyfan gwbl a daeth y bygythiad, i bob pwrpas, i ben. Bu ambell i ddigwyddiad achlysurol, gan gynnwys dau ryfel rhwng y Barbari a'r Unol Daleithiau. Daeth cyfnod y môr ladron i ben yn gyfan gwbl gyda choncwest Ffrainc o Algiers ym 1830 

Ymosodiadau ar Gymru golygu

Yn y 16g a’r 17g cododd Syr Thomas Mostyn o ardal Llandudno bedwar tŵr ar arfordir gogledd Cymru, ar gynllun tyrau Genoa yng Nghorsica, fel mannau gwylio, rhag ymosodiadau y Berberiaid (neu'r 'Barbari') o Ogledd Affrica a'r Twrc. Dyma'r pedwar: Tŵr Bryniau (neu 'Cadair Freichiau Nain'), Cadair y Rheithor (Llandrillo yn Rhos), Bryn Tŵr (Abergele) a Thŵr Chwitffordd.

Felly, roedd gan Deulu Mostyn bedwar tŵr i gadw golwg ar fôr-ladron Barbari ac roedd yn bosib anfon neges o'r naill i'r llall (drwy gynnau coelcerth, rhan amlaf) pan oedd angen. Er hynny, does yna ddim tystiolaeth bod ‘Môr-ladron Barbari’ wedi ymosod ar Ogledd Cymru[6].

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "British Slaves on the Barbary Coast".
  2. "Fort Caroline, the Search for America's Lost Heritage".
  3. Review of Pirates of Barbary by Ian W. Toll, New York Times, 12 Dec. 2010
  4. Conlin, Joseph R. The American Past: A Survey of American History, Volume I: To 1877. t. 206.
  5. Chaney, Eric (2015-10-01). "Measuring the military decline of the Western Islamic World: Evidence from Barbary ransoms". Explorations in Economic History 58: 107–124. doi:10.1016/j.eeh.2015.03.002. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0014498315000169.
  6. Secret Llandudno, John Lawson-Reay, Amberley Publishing Limited, 15 Hydref 2017