Mae Tŵr Ancone neu Dŵr Palmentoggio (Corseg: Torra d'Ancone) yn dŵr Genoa adfeiliedig sydd wedi ei leoli yn commune Calcatoggio (Corse-du-Sud) ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Mae'r tŵr yn sefyll ger y môr ar y Punta di Palmentoju i'r de o Golfu di a Liscia.

Torra d'Ancone
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCalcatoggio Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.0422°N 8.72639°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethlisted in the general inventory of cultural heritage Edit this on Wikidata
Manylion

Cychwynnwyd ar waith adeiladu'r Torra d'Ancone ym 1581. Mae'r tŵr yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1]

Yn 2007 cafodd y tŵr ei gynnwys yn Inventaire général du patrimoine culturel (rhestr henebion o bwys diwylliannol) sy'n cael ei gadw gan weinyddiaeth diwylliant Ffrainc.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense ên Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 136. ISBN 2-84050-167-8.
  2. "Inventaire général du patrimoine culturel: Poste d'observation dit tour génoise de Palmentoggio ou tour d'Ancone" (yn French). Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)

Dolenni allanol golygu

  • Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-11. Cyrchwyd 2018-07-29. Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gorsica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.