Tour of Britain 2004
Cynhaliwyd Tour of Britain 2004, sef y ras gyntaf o'r fersiwn diweddaraf o'r Tour of Britain dros bum diwrnod yn nechrau mis Medi 2004. Trefnwyd hi gan SweetSpot ynghyd â British Cycling. Cefnogwyd y ras gan drefnwyr Cais Llundain ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Hysbyswyd y ras yn eang iawn, a chafodd timau adnabyddus megis T-Mobile (Yr Almaen) a U.S. Postal Service (UD) eu denu i gymryd rhan. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y ras yng nghategori 2.3 ar galendar rasio'r Union Cycliste Internationale (UCI).
Enghraifft o'r canlynol | Taith Prydain |
---|---|
Dyddiad | 2004 |
Olynwyd gan | Tour of Britain 2005 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gorffenodd taith 2004 gyda criterium 45 milltir (72 km) yn Llundain, gwyliodd degoed o filoedd o bobl brêc hir gan y Llundeiniwr Bradley Wiggins, tan y lap cyn yr un olaf, a chymerodd Enrico Degano o dîm Tîm Barloworld y sbrint ar y linell. Enillodd y Colombiwr Mauricio Ardila, o dîm Chocolade Jacques, y Tour.
Canlyniadau
golyguCymalau
golyguCymal | Dyddiad | Dechrau | Gorffen | Pellter | Enillydd | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 1 Medi 2004 | Manceinion | Manceinion | 207 km | Stefano Zanini | QSD | 5h 01'23" | |
2 | 2 Medi 2004 | Leeds | Sheffield | 172 km | Mauricio Ardila | CHO | 4h 26'26" | |
3 | 3 Medi 2004 | Bakewell | Nottingham | 192 km | Tom Boonen | QSD | 4h 30'55" | |
4 | 4 Medi 2004 | Casnewydd | Casnewydd | 160 km | Mauricio Ardila | CHO | 3h 32'37" | |
5 | 5 Medi 2004 | Llundain | Llundain | 72 km | Enrico Degano | TBL | 1h 27'30" |
Canlyniad terfynol
golyguEnw | Canedlaetholdeb | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|
1 | Mauricio Ardila | Colombia | Chocolade Jacques-Topsport Vlaanderen | 18h 58'36" |
2 | Julian Dean | Seland Newydd | Crédit Agricole (tîm seiclo) | + 00'12" |
3 | Nick Nuyens | Gwlad Belg | Quick Step-Davitamon | + 00'17" |
4 | Eric Leblacher | Ffrainc | Credit Agricole | + 00'18" |
5 | Fernandez Moreno | Sbaen | Relax - Bodysol | + 00'19" |
6 | Paolo Savoldelli | Yr Eidal | T-Mobile | + 00'20" |
7 | Michele Bartoli | Yr Eidal | Team CSC | + 00'24" |
8 | José Luis Rubiera | Sbaen | US Postal-Berry Floor | Yr un amser |
9 | Kevin Van Impe | Gwlad Belg | Lotto-Domo | + 00'27" |
10 | Christopher Baldwin | UDA | Navigators Insurance | Yr un amser |