Bradley Wiggins
Seiclwr proffesiynol o Loegr ydy Syr Bradley Marc Wiggins, CBE (ganwyd 28 Ebrill 1980, Ghent, Gwlad Belg). Mae'n arbenigo mewn seiclo trac a ffordd. Enillodd dair medal ar y trac yn Gemau Olympaidd yr Haf Athen 2004. Yn Gorffennaf 2012 enillodd Wiggins y Tour de France, y seiclwr cyntaf Seisnig i ennill y Tour.
Bradley Wiggins | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1980 Gent |
Man preswyl | Kilburn, Maida Vale, Eccleston |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr trac, seiclwr cystadleuol |
Taldra | 190 centimetr |
Pwysau | 83 cilogram |
Tad | Gary Wiggins |
Plant | Ben Wiggins |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, Marchog Faglor, Vélo d'Or |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Groupama-FDJ, Crédit Agricole cycling team, Cofidis, Team Columbia-HTC, EF Education-EasyPost, Team Sky, Wiggins, Linda McCartney Racing Team |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Ganed Bradley yn fab i seiclwr proffesiynol Awstralaidd, Gary Wiggins, ond gwahanodd ei rieni ac aeth i fyw efo'i fam i Maida Vale, Llundain. Yn dilyn gyrfa ei dad, dechreuodd seiclo yn ifanc, gan rasio yn Velodrome Herne Hill, de Llundain yn 12 oed.[1]
Yng Ngemau Olympaidd Sydney yn 2000, enillodd Wiggins y fedal efydd yn y pursuit tîm. Yng Ngemau Olympaidd Athen 2004, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, 4 km, arian yn y pursuit tîm ac efydd yn y Madison gyda Rob Hayles.
Yn 2001 arwyddodd Wiggins gytundeb gyda thîm proffesiynol ffordd Linda McCartney Racing Team cyn iddo ddod i ben yn gynnar yn 2001.[2] Yn 2002 a 2003, reidiodd dros dîm proffesiynol Ffrengig La Francaise des Jeux; yn 2004 a 2005, dros dîm proffesiynol Ffrengig Crédit Agricole, a reidiodd yn Giro d'Italia 2005. Symudodd i dîm Ffrengig Cofidis yn 2006, a chystadleuodd yn Tour de France 2006 a 2007.
Yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd a argraffwyd 31 Rhagfyr 2004, gwnaethwyd ef yn OBE i gydnabod ei wasanaeth i chwaraeon.
Dychwelodd Wiggins i reidio trac yng nghymal Manceinion Cwpan y Byd Trac, UCI a Phencampwriaethau'r Byd yn 2007, gan ennill y pursuit tîm a'r pursuit unigol. Dilynodd y buddugoliaethau yma gan ennill stage prologue y Critérium du Dauphiné Libéré.
Reidiodd Tour de France 2007 dros dîm Cofidis; ond tynnwyd hwy allan o'r gystadleuaeth wedi i aelod arall o'r tîm, Cristian Moreni, brofi'n bositif mewn prawf cyffuriau.[3]
Yn 2008, ail-adroddodd Wiggins ei gampau o Bencampwriaethau'r Byd 2007 gan gipio'r aur yn y Pursuit unigol, gan greu Record y Byd newydd yn y broses. Cipiodd yr aur yn y Madison yn ogystal.
Priododd Bradley, Catherine Cathy Cockram, ym Manceinion yn Nhachwedd 2004, ac mae ganddynt ddau o blant, Ben ac Isabelle.
Yn Rhagfyr 2012, enillodd Wiggins y Wobr "Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC".
Canlyniadau
golygu- 1998
- 1af Pursuit 2 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Iau
- 1999
- 1af Madison (gyda Rob Hayles), Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2000
- 2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Chris Newton, Paul Manning a Bryan Steel)
- 3ydd Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd (gyda Jon Clay, Rob Hayles, Paul Manning, Bryan Steel & Chris Newton)
- 3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2001
- 2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2002
- 2il Pursuit 4 km, Gemau'r Gymanwlad
- 2il Pursuit Tîm, Gemau'r Gymanwlad
- 3ydd Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2003
- 1af Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Cymal 1 ITT, Tour de l'Avenir
- Chwe Diwrnod Ghent
- 2004
- 1af Pursuit 4 km, Gemau Olympaidd
- 2il Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd (gyda Steve Cummings, Paul Manning & Rob Hayles)
- 3ydd Madison, Gemau Olympaidd (gyda Rob Hayles)
- 2005
- 1af Cymal 2 ITT, Circuit de Lorraine
- 1af Cymal 8, Tour de l'Avenir
- 2007
- 1af Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Ed Clancy, Geraint Thomas & Paul Manning)
- 1af Pursuit Tîm, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac, UCI 2006/2007, (gyda Ed Clancy, Rob Hayles & Paul Manning)
- 1af Prologue, Critérium du Dauphiné Libéré
- 1af Cymal 1 ITT, Pedward Diwrnod Dunkirk
- 1af Cymal 4 ITT, Tour du Poitou-Charentes et de la Vienne
- Gwobr Combativity, Cymal 6, Tour de France
- 2008
- 1af Madison, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Ed Clancy, Geraint Thomas & Paul Manning)
- 2009
- 4ydd Tour de France
Dyfyniadau
golygu"Most people were too drunk to notice me" Sylwad ar ei brofiad o ymarfer ar gyfer cymal Llundain o'r Tour de France yn hwyr yn y nos.
"It is nice to be recognised for actually achieving something in life as opposed to spending seven weeks in a house on TV with a load of other muppets." Wrth gyfeirio at Big Brother, ar ôl gorffen yn bedwerydd yn Prologue Tour de France.[4]