Trabzon
Dinas hynafol ar arfordir y Môr Du yng ngogledd-ddwyrain Twrci yw Trabzon (hen enw: Trebizond, o'r ffurf wreiddiol Τραπεζούντα (Trapezounda), yn tarddu o 'τράπεζα', sef 'banc' mewn Groeg).
![]() | |
Math |
dinas, dinas fawr, bwrdeistref fetropolitan Twrci ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
807,903 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Tyrceg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Eastern Karadeniz ![]() |
Sir |
Trabzon ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
4,685 km² ![]() |
Uwch y môr |
0 ±1 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Y Môr Du ![]() |
Cyfesurynnau |
41.005°N 39.7225°E ![]() |
Cod post |
61000 ![]() |
![]() | |
Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn brifddinas talaith Trabzon.
HanesGolygu
Sefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan Roegwyr o Filetus yn y 6ed ganrif CC. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol Trapezos (y gair Groeg am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod Bysantaidd. O'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas Ymerodraeth Trebizond a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cofnodir i'r Pla Du gyrraedd y ddinas yn y flwyddyn 1347, ar ei ffordd i Ewrop. Cipiwyd Trebizond gan Mehmet y Cwncwerwr yn 1461.
Ar ymyl y ddinas mae hen eglwys Fyzantaidd Santa Sophia yn sefyll mewn lecyn prydferth.
Sefydlwyd prifysgol yno yn 1980.
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Amgueddfa Trabzon
- Atatürk Köşkü
- Castell Trabzon
- Mosg Fatih
- Mosg Yeni Cuma
- Parc Boztepe
EnwogionGolygu
- Swleiman I (1494-1566), Swltan Ymerawdwr yr Otomaniaid
- Hayati Hamzaoğlu (1933-2000), actor
- Sunay Akın (g. 1962), bardd