Swleiman I

swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid a Chaliff (1520–1566)

Swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid o 1520 hyd ei farwolaeth oedd Kanuni Sultan Swleiman I, hefyd Swleiman y Godidog (6 Tachwedd 14946 Medi 1566).

Swleiman I
Ganwyd6 Tachwedd 1494 Edit this on Wikidata
Trabzon Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 1566 Edit this on Wikidata
Szigetvár Edit this on Wikidata
Man preswylTopkapı Palace Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Otomanaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llywodraethwr, deddfwr, arweinydd milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddswltan yr Ymerodraeth Otoman Edit this on Wikidata
TadSelim I Edit this on Wikidata
MamAyşe Hafsa Sultan Edit this on Wikidata
PriodHürrem Sultan, Mahidevran Gülbahar Sultan, Fülane Hatun, Gülfem Hatun Edit this on Wikidata
PartnerFülane Hatun, Gülfem Hatun Edit this on Wikidata
PlantŞehzade Mustafa, Şehzade Mehmed, Mihrimah Sultan, Selim II, Şehzade Bayezid, Şehzade Murad, Raziye Sultan, Șehzade Cihangir, Şehzade Abdullah, Fatma Nur, Şehzade Mahmud, Prins Ahmed Edit this on Wikidata
LlinachOttoman dynasty Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Trabzon, yn fab i'r Swltan Selim I. Wedi iddo ddilyn ei dad ar yr orsedd, ymgymerodd a chyfres o ymgyrchoedd milwrol, gan ymestyn ei ffiniau i gynnwys y Balcanau a rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn 1522, cipiodd ynys Rhodos oddi ar Farchogion yr Ysbyty. Yn 1526, gorchfygodd frenin Hwngari a'i ladd ym Mrwydr Mohács, gyda'r canlyniad fod Hwngari'n ymrannu'n dair rhan. Bu'n gwarchae ar ddinas Fienna yn 1529 a 1532, ond heb lwyddiant, ac yn 1533 gwnaeth gytundeb heddwch a'r Archddug Ferdinand.

Yn y dwyrain, bu'n ymladd yn erbyn rheolwyr Saffafid Persia. Cipiodd ddinas Baghdad oddi wrthynt yn 1534. Cipiodd lawer o diriogaeth yng Ngogledd Affrica hefyd, gan eu defnyddio ar gyfer ymosodiadau ar fyddinoedd yr ymerawdwr Siarl V. Un o gadfridogion Swleiman yn yr ymgyrchoedd hyn oedd Khair-ed-din Barbarossa.

Dan ei deyrnasiad ef, blodeuodd dysg a phensaernïaeth yn yr ymerodraeth, ac ef oedd yn gyfrifol am ail-adeiladu Istanbul, Mecca a Baghdad. Bu farw yn Szigetvár, a dilynwyd ef gan ei fab Selim II.

Rhagflaenydd:
Selim I
Swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid
22 Medi 15205 Medi 1566
Olynydd:
Selim II