Traeth Mawr, Sir Benfro

Traeth baner las ger Tyddewi yng nghymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan, Sir Benfro, Cymru, ac un o draethau mwyaf poblogaidd y sir yw'r Traeth Mawr, neu'r Porth Mawr (Whitesands yn Saesneg).[1][2] Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Traeth Porth Mawr
Mathbae, traeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8944°N 5.2958°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Mae'r bae ei hun, a elwir y "Porth Mawr", wedi'i leoli 2 filltir (3.2 km) i'r gorllewin o Tyddewi ac 1 filltir (1.6 km) i'r de o Penmaen Dewi, wedi'i ddisgrifio fel y traeth syrffio gorau yn Sir Benfro. Mae'r gair "porth" yma'n cyfeirio at y defnydd o'r bae fel porthladd i gychod, a cheir tystiolaeth fod yma gysylltiad agos gydag Iwerddon ers canrifoedd.

Fel cawr uwch y tirlun, saif Carn Llidi, lwmpyn o graig 594 tr (181 m) uwch y môr, ac ar ei lethrau ceir olion tai o'r Oes Haearn a'r Oes Efydd. Dyma leoliad rhannau o awdl Waldo Williams Tyddewi:

Ar gadernid Carn Llidi
Ar hyd un hwyr oedwn i,
Ac yn syn ar derfyn dydd
Gwelwn o ben bwy gilydd
Drwy eitha Dyfed y rhith dihafal
Ei thresi swnd yn eurwaith ar sindal
Lle naid y lli anwadal - yn sydyn
I fwrw ei ewyn dros far a hual.

Ar ben ucha'r traeth ceir penrhyn Trwynhwrddyn a'r ochr arall iddo ceir Porth Lleuog.

Capel Sant Padrig golygu

Am flynyddoedd nid oedd dim o’r capel i’w weld gan fod y cwbl wedi diflannu o dan y tywod. Ond rai blynyddoedd wedi storm enfawr, yn 2021, cafwyd archwiliad archaeolegol o safle'r hen gapel, a leolir o fewn tafliad carreg i linell y penllanw; dywedir mai o'r fan hon y teithiodd Sant Padrig o Gymru i'r Iwerddon, ac a ddaeth ymhen hir a hwyr yn nawddsant Iwerddon.

Nododd George Owen yn 1603:

Mae Capel Sant Padrig i'r gorllewin o Dyddewi ac mor agos â phosib at ei wlad ei hun – Iwerddon. Mae wedi mynd â'i ben iddo erbyn hyn.

Archwiliwyd y fan oherwydd erydu arfordirol, sy'n cael ei ddwyshau gan newid hinsawdd; ers dechrau’r 20g, daeth nifer o feddi i’r golwg yn y twyni tywod. Yn 2004, gosododd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gerrig enfawr ar y fan lle saif y capel, er mwyn ceisio arafu’r erydu ond yn 2014 chwipiwyd y maeni gan donnau stormydd garw, gan ddatgelu’r beddi unwaith yn rhagor.[3] Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fu'n cloddio, gydag arbenigedd Prifysgol Sheffield yn cynorthwyo; cafwyd cefnogaeth Cadw, y Nineveh Charitable Trust ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Drwy arbrofion dyddio radiocarbon, nodwyd fod y fynwent yn cael ei defnyddio rhwng y 8g a’r 11g O.C. a bod mwy o blant a menywod nag o ddynion wedi'u claddu. Gosodwyd y beddau o’r dwyrain i’r gorllewin, gyda’r pen tua’r gorllewin, heb unrhyw eiddo'n cael ei gladdu yn y beddau. Gosodwyd rhai o'r ysgerbydau mewn "beddau cist" gydag ochrau carreg a cherrig mawr gwastad yn glawr neu'n gaead iddynt. Ar fedd un plentyn naddwyd arwydd y groes ar y clawr carreg ac mae'n gwbwl bosib mai hon yw'r groes gynharaf ar unrhyw fedd Cristnogol yng Nghymru.[4]

Llai na chilometr i'r gogledd-orllewin, saif Coetan Arthur ar benrhyn arall, sef Penmaen Dewi.

Archwiliad archaeolegol 2021 golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Blue flag beaches in Wales
  2. "Whitesands Bay". UKAttraction.com. n.d. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mehefin 2008. Cyrchwyd 25 Mawrth 2019.
  3. dyfedarchaeology.org.uk; Archaeoleg Dyfed; adalwyd 23 Mehefin 2021.
  4. gofalaethwystog.wordpress.com; adalwyd 23 Mehefin 2021.