Stephen Crabb

Gwleidydd Cymreig ac AS

Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Blaid Geidwadol yw Stephen Crabb (ganwyd 20 Ionawr 1973). Mae'n cynrychioli etholaeth Preseli Penfro fel Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin San Steffan ers 2005 a roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng Gorffennaf 2014 a Mawrth 2015.[1]

Y Gwir Anrhydeddus
Stephen Crabb
Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau
Yn ei swydd
19 Mawrth 2016 – 14 Gorffennaf 2016
Prif Weinidog David Cameron
Rhagflaenydd Iain Duncan Smith
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Yn ei swydd
15 Gorffennaf 2014 – 19 Mawrth 2016
Prif Weinidog David Cameron
Rhagflaenydd David Jones
Olynydd Alun Cairns
Gweinidog Swyddfa Cymru
Yn ei swydd
4 Medi 2012 – 15 Gorffennaf 2014
Prif Weinidog David Cameron
Rhagflaenydd David Jones
Olynydd Alun Cairns
Aelod Seneddol
dros y Preseli
Yn ei swydd
Dechrau
5 Mai 2005
Rhagflaenydd Jackie Lawrence
Mwyafrif 4,605 (11.6%)
Manylion personol
Ganwyd (1973-01-20) 20 Ionawr 1973 (51 oed)
Inverness, Yr Alban
Plaid wleidyddol Blaid Geidwadol
Gŵr neu wraig Béatrice Monnier
Plant 2
Alma mater Prifysgol Bryste
Ysgol Fusnes Llundain
Gwefan Gwefan swyddogol

Ym Mai 2009 hawliodd £8,049 am ei ail gartref gan ei wario ar fflat yn Llundain. Gwerthodd hwnnw am elw a hawliodd gostau am gartref roedd yn ei brynnu ym Mhenfro. Nododd mai ei brif gartref oedd ystafell yn nhŷ cyfaill iddo.[2]

Magwraeth golygu

Ganwyd Crabb yn Inverness, yr Alban [3] gydag un rhiant yn Albanwr a'r llall yn Gymraes. Magwyd ef a'i ddau frawd gan ei fam ar ystâd o dai cyngor ym Mhenfro.[3]

Gyrfa golygu

Ym Mhrifysgol Bryste y cyfarfu a'i wraig Béatrice.[4] ac oddi yno aeth i Ysgol Fusnes Llundain ble y graddiodd gydag MBA. Yr un pryd, astudiodd Ffrangeg gyda'r Brifysgol Agored.[5][5]

Wedi iddo adael Prifysgol Bryste, cychwynodd weithio i elusen National Council for Voluntary Youth Services gan weithio'n rhan amser fel gweithiwr ieuenctid yn ne Llundain. Yn 1998 cychwynodd weithio yn y London Chamber of Commerce gan gael ei benodi i swydd ymgynghorydd marchnata yn 2002.

Ymgeisodd am swydd arweinydd y Blaid Geidwadol yn Mehefin 2016 gan dynnu allan er mwyn cefnogi Theresa May pan ddaeth yn amlwg nad oedd am gael y pleidleisiau angenrheidiol. Ar 14 Gorffennaf 2016 wrth i'r prif weinidog newydd Theresa May ad-drefnu'r cabinet, fe ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau "er lles ei deulu" yn dilyn adroddiadau papur newydd am ei fywyd personol yn yr wythnosau cynt.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ad-drefnu'r cabinet: Stephen Crabb yn olynu David Jones". Golwg360. 15 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 24 Awst 2014.
  2. Swaine, Jon (14 Mai 2009). "Stephen Crabb nominates fellow MP's flat as main home: MPs' expenses". Telegraph.co.uk. London: Telegraph Media Group. Cyrchwyd 20 Mai 2009.
  3. 3.0 3.1 "Stephen Crabb to be Welsh secretary". The Guardian. 15 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2014.
  4. Crabb, Stephen (25 Hydref 2014). "Tory Minister for Wales: I foiled my dad's knife attack... on my mother". Daily Mail. Cyrchwyd 20 Mawrth 2015.
  5. 5.0 5.1 "About Stephen". stephencrabb.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-17. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2014.
  6.  Stephen Crabb yn ymddiswyddo 'er lles ei deulu'. BBC Cymru (14 Gorffennaf 2016).