Mae Traeth y Newry wedi'i leoli yng Nghaergybi, Ynys Mon. Traeth cerrig mân a chreigiau yw'r traeth hwn.

Traeth y Newry
Mathtraeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymuned Caergybi Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3173°N 4.634°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au
AS/au
Map

Cyfleusterau golygu

Mae cae chwarae yno, llwybr beicio, gardd y synhwyrau, tŷ bach ac amgueddfa forwrol. O'r cae chwarae ceir cipolwg dros yr harbwr. Mae mynediad i'r traeth, ar hyd llwybr tarmac, am ddim.

Datblygu golygu

Yn 2017 cafwyd cais cynllunio amlinellol gan cwmni Conygar Stena i ddatblygu'r ardal, a sefydlwyd Ymgyrch Traeth y Newry (Newry Beach Holyhead Action Group) i'w wrthwynebu. Roedd y cais yn cynnwys marina gyda 500 angorfa, 380 o fflatiau a thai tref, gwesty a thros 43, 000 tr sg o swyddfeydd a chyfleusterau hamdden ac adwerthu. Barn yr ymgyrchwyr yw y byddai'r datblygiad yn dinistrio'r arfordir. Mae'r ardal sydd dan sylw ar yr arfordir o'r Amgueddfa Forwrol ar draeth y Newry yn holl ffordd at ddechrau'r Morglawdd ger Pwynt Soldiwrs.[1]

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. newrybeachholyhead.co.uk; adalwyd 30 Mehefin 2017.