Mae Cymraeg Cynnar yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg sy'n estyn o oddeutu canol y 6g, cyfnod trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg, hyd tua chanol yr 8g. Yn Saesneg defnyddir y termau 'Primitive Welsh' neu 'Archaic Welsh' am iaith y cyfnod hwn.[1]

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Nid oes testunau Cymraeg wedi goroesi o gyfnod Cymraeg Cynnar. Deillia'r hyn a wyddom am Gymraeg Cynnar o enwau priod mewn dogfennau Lladin, enwau priod a fenthycwyd i'r Saesneg, a'r hyn y gellir ei gasglu ar sail natur yr iaith mewn cyfnodau diweddarach. Er enghraifft, fe gynnwys y testun Lladin Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum ('Hanes Eglwysig Cenedl yr Eingl'), a ysgrifennwyd gan y mynach Beda oddeutu 731, ambell enw priod Cymraeg.

Os oes unrhyw ddarnau o'r Hengerdd yn dyddio i'r 6g neu'r 7g, yna gall mai mewn Cymraeg Cynnar y'u cyfansoddwyd yn wreiddiol. Ond a bod yn fanwl gywir, mae'n debyg mai Cymbrieg Cynnar fyddai iaith y Gododdin. Perthyn llawysgrifau'r Hengerdd i gyfnod Cymraeg Canol, er bod lle i gredu bod rhai yn gopïau o destunau a luniwyd mewn Hen Gymraeg.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu