Treasure Island
Nofel antur gan Robert Louis Stevenson a gyhoeddwyd yn 1883 yw Treasure Island. Adrodda'r stori hanesion am fôr-ladron yn chwilio am aur cuddiedig. Yn wreiddiol, cyhoeddwyd y llyfr rhwng 1881-82 yn y cylchgrawn i blant, Young Folks o dan yr enw The Sea Cook, or Treasure Island.
Gwelir ddylanwad Treasure Island ar y ddelwedd draddodiadol o fôr-ladron, gyda mapiau trysor sydd â X arnynt a morwyr un-goes gyda pharotiaid ar eu hysgwyddau.
Addaswyd y nofel i'r Gymraeg gan T. Llew Jones fel Ynys y Trysor (Gwasg Mynydd Mawr, 1986).