Laburnum anagyroides
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fabales
Teulu: Fabaceae
Genws: Laburnum
Rhywogaeth: L. anagyroides
Enw deuenwol
Laburnum anagyroides

Llysieuyn blodeuol (neu legume) yw Tresi aur sy'n enw lluosog. Mae'n perthyn i'r teulu Fabaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Laburnum anagyroides a'r enw Saesneg yw Laburnum.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Tresi Aur, Banadlen Ffrainc, Euron, Pyswydden.

Eraill yn yr un teulu yw: ffa soya (Glycine max), y ffa cyffredin (Phaseolus), pys gyffredin (Pisum sativum), chickpea (Cicer arietinum), cnau mwnci (Arachis hypogaea), pys per (Lathyrus odoratus) a licrs (Glycyrrhiza glabra).

Statws yng Nghymru golygu

Mae gerddi Bodnant yn fyd enwog am ei fwa o dresi aur. Nid yw tresi aur yn gynhenid i Gymru nac i Brydain ond maent wedi hadu’n naturiol mewn o leiaf un lle yn y Canolbarth. Mae nifer fawr o goed tresi aur yn tyfu‘n wyllt yn y cloddiau ar y tiroedd uchel yn yr ardal rhwng Llambed, Aberaeron a Chaerfyrddin. Yn 2010 roedd y coed yn anterth eu blodau yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Mehefin. Yn 2011 buont bron ar eu gorau ddechrau yr ail wythnos ym mis Mai dair wythnos ynghynt ac efallai yn fwy tymhorol na'r flwyddyn flaenorol pan oeddent yn hwyr iawn.[2]

 
Y Bwa Tresi Aur yng Ngerddi Bodnant
 
Llwyni tresi aur yn tyfu’n wyllt yn ardal Synod Inn, Cymru yn 2011

Am y tresi aur hyn, ar y draffordd rhwng Synod Inn ac Aberaeron, mae coel mai capteniaid y llongau lleol ddaeth a phlanhigion o wledydd tramor a‘u dosbarthu yn yr ardal.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 52
  3. Bryan Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 52

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: