Triangulum (cytser)

Cytser bychan yn y gogledd yw Triangulum, a elwir felly am fod ei dair seren disgleiriaf yn ffurfio triongl estynedig. Mae'n un o'r 88 cytser modern, ac un o'r 48 traddodiadol a restrir gan y seryddwr Ptolemi.

Triangulum
Enghraifft o'r canlynolcytser Edit this on Wikidata
Rhan oNorthern celestial hemisphere Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytser Triangulum

Nodweddion golygu

Does gan Triangulum ddim sêr o'r magnitiwd cyntaf. Ei sêr disgleiriaf yw β Trianguli (magnitiwd 3.00) ac α Trianguli (m 3.41).

Gwrthrychau pwysig golygu

Triangulum yw lleoliad Galaeth Triangulum, M33, un o'r galaethau yn y Grŵp Lleol. Mae'n 2.9 miliwn blwyddyn golau i ffwrdd, a gyda magnitiwd o 5.8 mae'n ddigon disglair i'w gweld â'r llygaid yn unig ar nosweithiau clir.

Hanes a mytholeg golygu

Un o enwau cynnar y cytser oedd Sicilia, am y credid fod Ceres, nawdd-dduwies Sisili, wedi deisyfu'r duw Iau i roi'r ynys honno yn y nefoedd.

Dolenni allanol golygu