Triangulum (galaeth)
Galaeth troellog yng nghytser Triangulum yw Galaeth Triangulum (Messier 33 yng Nghatalog Messier neu NGC 598). Cyfeirir ato weithiau fel y "Galaeth Pin-olwyn" ("Pinwheel Galaxy") mewn llyfrau poblogaidd ar seryddiaeth, ond mae hwnnw'n enw poblogaidd am galaeth Messier 101 yn ogystal. Galaeth Triangulum yw'r trydydd mwyaf o safbwynt maint a màs yn y Grŵp Lleol, y grŵp o galaethau sy'n cynnwys Galaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni, a Galaeth Fawr Andromeda, ac mae'n bosibl ei fod yn gydymaith disgyrchiant i galaeth Andromeda. Mae'n bosibl fod y galaeth Corrach Pisces (LGS 3), sy'n rhan o'r Grŵp Lleol hefyd, yn gydymaith i Driangulum.
Enghraifft o'r canlynol | flocculent spiral galaxy, galaeth |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1654 |
Rhan o | Grŵp Lleol, [CHM2007] LDC 160, [TSK2008] 222, M31 Group |
Yn cynnwys | NGC 592, Var 83, M33 X-7, NGC 604, NGC 595, NGC 588 |
Cytser | Triangulum |
Pellter o'r Ddaear | 0.8 ±0.1 |
Cyflymder rheiddiol | −182 cilometr yr eiliad |
Radiws | 27,500 ±2500 blwyddyn golau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar nosweithiau braf gellir gweld Galaeth Triangulum heb delesgop; dyma'r gwrthrych pellach i ffwrdd o'r ddaear sy'n weladwy i'r llygaid felly. Ond dylid fod yn ofalus i beidio â'i chymysgu â NGC 752, clwstwr agored gerllaw sy'n fwy disglair yn yr awyr na Triangulum ei hun.
Yn sgîl arsyllu gofalus yn 2005, mae ymchilwyr wedi llwyddo am y tro cyntaf i amcangyfrif troellu onglaidd a symudiad cywir Triangulum. Amcangyfrifir cyflymder o 190 ± 60 km/s mewn perthynas â'r Llwybr Llaethog sy'n awgrymu hefyd fod Triangulum yn symud i gyfeiriad Galaeth Andromeda.