Trioedd Ynys Prydain

(Ailgyfeiriad oddi wrth Trioedd Cymreig)

Trioedd Ynys Prydain (hen ffurf: Trioedd Ynys Prydein) yw'r enw ar gasgliad arbennig o drioedd sy'n ffurfio math o fynegai neu wyddionadur llawfer o wybodaeth y beirdd Cymraeg am hanes a thraddodiadau cynnar Cymru ac Ynys Prydain. Fel yn achos trioedd eraill, mae'r deunydd yn cael ei ddosbarthu yn unedau o dri, gan restru enwau arwyr traddodiadol a digwyddiadau, ac mae gan bob triawd ei deitl. Mae 96 triawd wedi goroesi. Ceir llawer o'r Trioedd hyn yn Llyfr Coch Hergest yn dyddio i'r 14g ac a gedwir yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen gyda'r cyfeirnod MS 111. Roedd yr arferiad o ddosbarthu pethau yn drioedd, fel hyn, yn ddyfais bwysig yn niwylliant Celtaidd Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Credir i'r Trioedd gael eu casglu at ei gilydd yn y 12g , gyda llawer o'r triawdau yn llawer hŷn na hynny.[1]

Jesus-College-MS-111 00288 144v.jpg
Rhan o lawysgrif Llyfr Coch Hergest, sy'n cynnwys y Trioedd.
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcyfres, llawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1380s Edit this on Wikidata
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

CynnwysGolygu

Mae'n debyg fod gwreiddiau Trioedd Ynys Prydain yn hen iawn. Ynddyn nhw ceir math o grynodeb o ddysg y beirdd, fel math o lawlyfr cryno i hanes traddodiadol y Cymry. Diau mai rhan o'i bwrpas yw gwasanaethu fel cymorth i gofio chwedlau a thraddodiadau a'r berthynas rhyngddyn nhw. Dylid cofio fod y bardd cynnar yn gyfarwydd (adroddwr chwedlau, chwedleuydd) yn ogystal a bod yn brydydd. Roedd dysg y beirdd yn cael ei throsglwyddo ar lafar ac felly roedd angen ffurf a fyddai'n hawdd i'w gofio.

Craidd Trioedd Ynys Prydain yw chwedlau neu draddodiadau am gymeriadau Cymreig neu Frythonaidd sy'n perthyn i fyd mytholeg, hanes traddodiadol Cymru, Iwerddon ac Ynys Prydain o safbwynt Cymreig gyda'r pwyslais ar Gaswallon, Gwrtheyrn a Macsen Wledig a'u cylch, a chymeriadau a digwyddiadau sy'n gysyllteidig â'r Hen Ogledd ac Oes Arwrol y 6ed a'r 7g. Yn perthyn i'r dosbarth olaf y mae traddodiadau Cymreig am Arthur a'i lys.

LlyfryddiaethGolygu

Y golygiad safonol yw:

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein. The Welsh Triads (Caerdydd, 1978). Ceir y testunau Cymraeg gyda chyfieithiadau Saesneg, rhagymadrodd helaeth a nodiadau llawn.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu