Triumph Motorcycles
Cwmni cynhyrchu beiciau modur Prydeinig oedd Triumph Motorcycles. Roedd ei phencadlys yn Coventry yn wreiddiol. Cymerwyd drosodd hawliau'r enw gan gwmni newydd yn Hinckley ar ôl i'r cwmni gwreiddiol gau lawr yn yr 1980au.
Math | menter |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig preifat |
Diwydiant | diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 1884 |
Sefydlydd | John Bloor |
Pencadlys | Hinckley |
Cynnyrch | beic modur |
Perchnogion | John Bloor |
Gwefan | https://www.triumph.co.uk |
Dechreuodd y cwmni pan ymfudodd Siegfried Bettmann i Coventry o Nuremberg, rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Sefydlodd Bettmann gwmni S. Bettmann & Co. Import Export Agency, yn Llundain ym 1884 ag yntau ond yn ugain oed. Cynnyrch gwreiddiol Bettmann oedd beiciau, a oedd y cwmni'n prynu ac yn eu gwerthu ymlaen o dan eu henw brand eu hunain. Dosbarthodd beiriannau gwnio o'r Almaen yn ogystal.