Troed-yr-ŵydd gwritgoch
Chenopodium capitatum | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Rhaniad: | Pteridophyta |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
Urdd: | Caryophyllales |
Teulu: | Amaranthaceae |
Genws: | Blitum |
Rhywogaeth: | B. capitatum |
Enw deuenwol | |
Blitum capitatum L. |
Planhigyn blodeuol yw Troed-yr-ŵydd gwritgoch sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Amaranthaceae yn y genws Blitum. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Chenopodium capitatum a'r enw Saesneg yw Strawberry-blite. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Troed yr ŵydd Writgoch. Mae'n frodorol o Gyfandir America ond bellach hefyd ar gael yn Ewrop a Seland Newydd.
Mae'r blodau'n fychan iawn, yn goch - yn ymdebygu i fefus - a gellir eu bwyta. Arferid defnyddio sudd y blodau i lifo brethyn. Mae'r ffrwythau'n cynnwys hadau duon tua 0.7-1.2 mm o hyd.[1] Mae'r dail a'r bonyn yn fwytadwy yn amrwd neu wedi'u coginio.[2]
Mae'n blanhigyn lluosflwydd. Nid oes ganddo stipwl (neu ddeilen fach). Fel arfer mae'r dail yn ddanheddog.
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Johnson, Derek; Kershaw, Linda; MacKinnon, Andy; Pojar, Jim (1995). Plants of the Western Boreal Forest and Aspen Parkland. Lone Pine Publishing. ISBN 1-55105-058-7Nodyn:Inconsistent citations
- ↑ "Strawberry-blite (Chenopodium capitatum)". Northern Bushcraft. Cyrchwyd 27 Ebrill 2011.