Yn llên gwerin Llychlyn mae'r trol (Norwyeg jutul, Saesneg troll) yn gawr brawychus sy'n byw mewn ogof neu gastell diarffodd. Fel rheol mae'n gwarchod trysor. Mae'n rhodio'r fforestydd a'r rhosdiroedd yn y nos am fod pelydrau'r haul yn ei droi'n garreg. Weithiau mae'n dal teithwyr ac yn eu bwyta.

Trol (llun gan John Bauer)

Mae'r trol yn perthyn i ddosbarth o greaduriaid arallfydol a elwir underjordiske-folk ("y bobl sydd dan y ddaear").

Yn y traddodiad llên gwerin diweddarach mae'r trol yn colli rhai o'i agweddau mwyaf cyntefig ac yn cael ei bortreadu fel corrach o ddyn, gwyllt ei olwg, sy'n byw mewn ogof neu yn y mynyddoedd ac sy'n grefftwr medrus.

Mae chwedlau am y trol yn arbennig o niferus a grymus yn llên gwerin Norwy (ceir dwsinau o enghreifftiau yng nghasgliad adnabyddus Moe ac Asbjørnsen, er enghraifft).

Ceir chwedlau am y trol a chewri tebyg iddo mewn sawl gwlad a diwylliant, ond mae gan y trol Llychlynaidd ei gymeriad arbennig ei hun ac mae'n rhan bwysig o etifeddiaeth gwledydd Llychlyn.

Llyfryddiaeth golygu

  • Reidar Th. Christiansen (cyf. Pat Shaw Iversen), Folktales of Norway (Llundain, 1964). Detholiad o chwedlau gyda rhagymadrodd da.