Dillad
Deunydd naturiol neu artiffisial a wisgir gan bobl yw dillad i gadw'r corff yn gynnes neu i amddiffyn neu addurno'r corff. Cânt eu gwisgo hefyd er mwyn bod yn gyffyrddus neu i adlewyrchu gwerthoedd gymdeithasol neu grefyddol.
Gall dillad amddiffyn y corff dynol rhag peryglon yn yr amgylchedd, e.e. tywydd eithafol (heulwen cryf, poethder neu oerni, glaw, a.y.y.b.), pryfed, cemegion, deunydd garw fel carreg, arfau a pheryglon eraill. Gyda dillad y mae'r corff dynol yn llai agored i niwed ac mae pobl yn medru addasu i sawl amgylchedd.
Mae pobl wedi bod yn ddyfeisgar iawn dros y canrifoedd yn cynllunio dillad i gwrdd ag anghenion bywyd dan bob math o amgylchiadau. Mae'r term dillad yn gallu cynnwys gwisg arbennig felly nad yw'n cael ei gwisgo fel rheol, e.e. siwt gofod, arfwisg, siwt plymio, costiwn nofio fel y bicini, dillad gyrrwr beic, ac ati.
Galla dillad fod o arwyddocad crefyddol hefyd, e.e. gwisg mynachod neu'r hijab Islamaidd.
Hanes dillad
golyguYn ôl archaeolegwyr ac anthropolegwyr, gwisgoedd o ffwr neu groen anifeiliaid (lledr), dail neu wair, yn hongian neu'n cael ei lapio neu ei glymu ar y corff i'w amddiffyn rhag yr elfennau oedd y dillad cyntaf. Darganfuwyd nodwyddau cyntefig wedi'u gwneud o ifori neu asgwrn sy'n dyddio i tua 30,000 CC, ger Kostenki, yn yr hen Undeb Sofietaidd, yn 1988. Mae llau dynol yn dyddio i tua 107,000 o flynyddoedd yn ôl wedi eu darganfod hefyd: gan nad yw'r llau yn byw ar y corff noeth fel rheol mae hynny'n awgrymu fod pobl yn gwisgo dillad o ryw fath. Mae'n bosibl fod dillad wedi cael eu dyfeisio gan Homo sapiens pan symudodd i Ewrop o Affrica tua 50,000 - 100,000 o flynyddoedd yn ôl.
Dysgodd pobl sut i wneud dillad allan o ddeunydd o bob math. Erbyn heddiw mae cynhyrchu dillad yn ddiwydiant byd-eang. Ond er bod llawer o'n dillad yn cael eu gwneud mewn ffatrioedd ers y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif, mewn rhai cymdeithasau mae dillad yn dal i gael ei wneud gan waith llaw.
Deunydd dillad
golyguMae deunyddiau cyffredin ar gyfer gwneud dillad yn cynnwys ffibrau naturiol:
- Brethyn neu liain, wedi'i wneud o gotwm, llin, gwlân, sidan
- Down, e.e. i lenwi parkas
- Ffwr
- Lledr
- Denim
A ffibrau synthetig neu artiffisial a wneir yn bennaf o sgîl-gynhyrchion y diwydiant petrogemegol:
Mae deunydd llai cyffredin yn cynnwys: