Trychineb Glofa'r Tarenni Gleision
Digwyddodd Trychineb Glofa'r Tarenni Gleision (neu Glofa'r Gleision) ar 15 Medi, 2011; lleolir y lofa ger pentref Cilybebyll, Cwm Tawe. Roedd saith glöwr wrth eu gwaith yn trin ffrwydron, mewn gwythïen o lo, ac o ganlyniad i ffrwydrad, am 09.21, llifodd dŵr trwy'r creigiau; bu farw pedwar. Glofa Gleision ydy un o’r ychydig byllau glo sydd ar ôl yng Nghymru sy'n defnyddio dulliau hen ffasiwn a dyma'r drychineb waethaf mewn glofa am 30 blynedd.[1] Cyfansoddodd y bardd Gwyneth Lewis gerdd "Gleision" am y drychineb ar ôl ymweld â'r pentref.[2]
Enghraifft o'r canlynol | damwaith gwaith mwyngloddio |
---|---|
Lleoliad | Cilybebyll |
Wedi'r ffrwydriad, dihangodd tri o'r saith glöwr am eu bywydau i fyny i'r wyneb. Cymerwyd un o'r rhain yn syth i uned gofal dwys Ysbyty Treforys yn Abertawe a chychwynodd y tîm achub ar y gwaith o ganfod y pedwar a oedd yn weddill.
Yn dilyn y drychineb
golyguCyrhaeddodd y gwasanaethau brys y pwll yn gyflym iawn a gweithiodd y Frigâd Dân a Thîm Achub y Glöwyr (gydag aelodau o Gymru a Lloegr) ar y cyd 90m (300tr) o dan yr wyneb.[3][3][4] Ar 16 Medi 2011 cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru fod cyrff pedwar glöwyr wedi'u darganfod, dyma'r trefn cawsom eu hachub :- Charles Breslin, 62; David Powell, 50; Garry Jenkins, 39; a Phillip Hill, 45. Ar 16 Medi cyhoeddodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y cynhelid ymchwiliad gan Heddlu De Cymru (a Gweithgor Iechyd a Diogelwch y Cynulliad ychydig wedyn) a bod gwersi i'w dysgu; cytunodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gyda hyn.[5]
Ar 17 Medi rhyddhaodd yr Aelod Seneddol lleol dros Gastell-nedd ei fod wedi cysylltu gyda pob un o deuloedd y mwynwyr hyn ac nad oedd unrhyw un ohonynt wedi nodi unrhyw gonsyrn am iechyd a diogelwch y lofa. Dywedodd hefyd, "Mae'r drychineb hon yn gyllell drwy galon y gymuned... ac mae wedi cyffwrdd bywydau miloedd o bobl ym Mhrydain ac ar draws y byd."[6][7]
Llys
golyguAr 18 Hydref 2011 arestiwyd Malcolm Fyfield, rheolwr Tarenni Gleision, ar amheuaeth o ddynladdiad.[8] yn dilyn ymchwiliad pellach gan Heddlu De Cymru, cafodd ei gyhuddo ddynladdiad ac esgeulustod difrifol.[9] Gwyswyd perchennog y lofa (sef MNS Mining Ltd) hefyd i ymddangos o flaen y llys ar yr un diwrnod.[10]
Ar 19 Mehefin 2014, yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe, a gymerodd bron i dri mis, cafwyd Malcolm Fyfield yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd,[11] a chafwyd MNS Mining, hefyd yn ddieuog o'r pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol drwy esgeulustod dybryd. Bu'r rheithgor yn ystyried am lai na dwy awr.[12]
Geirdarddiad
golygu'Man lle bydd dŵr, olew, ayb yn codi ac yn ffrydio o'r ddaear, (llygad) ffynnon, tarddle' yw ystyr 'taren' (neu 'taddell' yn wreiddiol). Mae "gleision" yn ansoddair lluosog y gair "glas".[13]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Taylor, Jerome; Judd, Terri (17 Medi 2011). "The day hope died: No survivors in mining disaster". The Independent. Independent Print Limited. Cyrchwyd 21 Medi 2011. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ ""Gleision Mining disaster"". Gwynethlewis.com. Cyrchwyd 4 Hydref 2011.
- ↑ 3.0 3.1 "Trapped miners: Divers sent into Swansea Valley mine". BBC News. BBC. 16 Medi 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
- ↑ "Four miners trapped in Swansea Valley mine, three freed". BBC News. BBC. 15 Medi 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
- ↑ "Welsh mine tragedy: Inquiry after four Gleision deaths". BBC News. BBC. 17 Medi 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
- ↑ "Welsh mine tragedy: Safety pledge on Gleision deaths". BBC News. BBC. 17 Medi 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
- ↑ Gwefan Cymru Fyw; adalwyd 10 Hydref 2015
- ↑ "Arrest over four miners' deaths at Gleision colliery". BBC News. BBC. 18 Hydref 2011. Cyrchwyd 18 Hydref 2011.
- ↑ "Gleision disaster: Mine manager charged over four deaths". BBC News. BBC. 18 Ionawr 2013. Cyrchwyd 22 Ionawr 2013.
- ↑ "Gleision Colliery mine manager and company charged over four deaths". Western Mail. Trinity Mirror. 18 Ionawr 2013. Cyrchwyd 22 Ionawr 2013.
- ↑ walesonline.co.uk; adalwyd 10 Hydref 2015
- ↑ golwg360.cymru; adalwyd 10 Hydref 2015
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru (CPC); adalwyd 2015