Agor y brif ddewislen
Awyren Avro Tudor V - tebyg i'r un a ddaearwyd.

Damwain awyren yn Llandŵ, Bro Morgannwg ym 1950 oedd Trychineb awyr Llandŵ. Ar y pryd, dyma'r ddamwain awyren waethaf yn y byd gydag 80 o'r teithwyr yn cael eu lladd[1]. Roedd yr awyren Avro Tudor V wedi ei llogi gan gefnogwyr rygbi i hedfan i Iwerddon ar gyfer gêm Pencampwriaeth y Pum Gwlad rhwng Iwerddon a Chymru yn Belffast, ac achoswyd y ddamwain wrth i'r injan ballu ar y ffordd yn ôl i Gymru.

Cwrs y digwyddiadauGolygu

Ar 12 Mawrth 1950, dechreuodd yr awyren Avro 689 Tudor V, Star Girl, oedd yn berchen i gwmni Airflight Limited ac yn hedfan o dan yr enw "Fairflight",[2] o Faes Awyr Dulyn ar daith i Faes Awyr yr Yr Awyrlu Brenhinol yn Llandŵ. Roedd 78 o deithwyr a 5 o griw ar yr awyren oedd wedi ei llogi gan gefnogwyr tîm rygbi Cymru ar gyfer gêm ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn erbyn Iwerddon yn Belffast.

Dywedodd llygad dyst wrth ohebwyr fod yr awyren yn teithio mor isel fel ei fod yn credu y byddai'n cael ei daro ganddi. Plymiodd yr awyren i'r llawr gyda'r adain dde'n taro'r llawr yn gyntaf cyn i'r trwyn a'r adain chwith daro'r llawr. Llwyddodd tri o'r teithwyr i oroesi'r ddamwain, gan gynnwys Handel Rogers a aeth ymlaen i fod yn llywydd Undeb Rygbi Cymru.[3].

CofebGolygu

 
Cofeb yn Sigingstone, ger Llanilltud Fawr.

Ymysg y rhai fu farw oedd tri aelod o Glwb Rygbi Abercarn a chwech aelod o Glwb Rygbi Llanharan. Mae'r ddau glwb yn cofio'r trychineb ar eu bathodynau[4][5]. Yn 2010, dadorchuddiwyd cofeb ym mhentref Sigginstone i gofio'r rhai fu farw[3].

CyfeiriadauGolygu