Llandŵ

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Llandŵ (Saesneg: Llandow). Saif y pentref yng nghanol y sir tua 15 milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd a thua tair milltir a hanner i'r gorllewin o'r Bont-faen.

Llandŵ
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth693 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4487°N 3.5223°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000657 Edit this on Wikidata
Cod OSSS942734 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auKanishka Narayan (Llafur)
Map

Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Llandŵ yn gartref i un o feysydd awyr y RAF. Heddiw mae rhan o'r hen wersyll yn faes rasio ceir. Ar 12 Mawrth 1950, digwyddodd y ddamwain awyr fwyaf difrifol yn hanes Cymru yn Llandŵ pan darodd awyren gyda nifer o gefnogwyr rygbi Cymru yn dychwelyd o gem yn Nulyn ar ei fwrdd y llawr wrth geisio glanio. Collodd 80 o bobl eu bywydau.[1]

Cofeb Trychineb Awyr Llandŵ.

Bu'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru yma yn 2012 - ar yr hen faes awyr yn Llandŵ.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Newyddion BBC
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-16. Cyrchwyd 2012-07-04.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.