Trwmped

(Ailgyfeiriad o Trymped)

Offeryn chwŷth cerddorol yw trwmped neu trymped neu utgorn (Ffrangeg trompette, Almaeneg Trompete, Eidaleg tromba, Saesneg trumpet). Mae'n cynhychu sain pan mae'r gwefusau yn cael eu gosod ar y darn ceg ac yna'n ysgwyd wrth chwythu.

Trwmped
Enghraifft o'r canlynolmath o offeryn cerdd Edit this on Wikidata
Mathvalve trumpets Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gyda'r trwmped rhychwant traw oddi wrth F-main3 i D6, neu F-main dan C ganolog, i D uwchben cleff y trebl. Mae'r trwmped yn C yn seinio fel ysgrifennwyd wrth traw cyngherdd, gyda'r trwmped yn B-lleddf, A, G, F, E, E-lleddf, a D fel offeryn trawsosod yn seinio yn ôl eu trefn, cyfwng holl tôn iselach, cyfwng trydydd lleiaf iselach, cyfwng pumed perffaith iselach, cyfwng pedwerydd perffaith uchelach, cyfwng trydydd mwyaf uchelach, cyfwng trydydd iselach, a chyfwng holl tôn uchelach.

Defnyddir y trwmped mewn sawl math o gerddoriaeth, er enghraifft mewn cerddoriaeth glasurol, lle gall fod yn rhan o gerddorfa lawn neu gerddorfa siambr. Cyfansoddwyd cerddoriaeth arbennig i'r trwmped, yn enwedig gan Giuseppe Torelli (1658–1709). Cysylltir y trwmped yn arbennig a jazz, lle mae trwmpedwyr fel Miles Davis, Chet Baker a Louis Armstrong ymhlith yr enwogion. Fe'i defnyddir hefyd gan fyddinoedd er mwyn cyfleu gorchymynion. Ceir enghreiffiau at ddefnydd milwrol o tua 2,000 CC.

Trwmpedwyr enwog

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn cerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.