Trystan ac Esyllt (W. J. Gruffydd)

Mae'r erthygl hon am y gerdd gan W. J. Gruffydd. Ar gyfer y chwedl wreiddiol, gweler Trystan ac Esyllt.

Pryddest yw Trystan ac Esyllt gan y bardd Cymraeg W. J. Gruffydd. Cyfansoddwyd y gerdd ar gyfer cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, pan oedd Gruffydd yn un ar hugain oed. Mae'r gerdd yn seiliedig ar y chwedl Arthuraidd Trystan ac Esyllt.

Tristan and Isolde gan Herbert Draper (1901)

Crynodeb

golygu

Mae'r gerdd yn dechrau tua diwedd y chwedl, gyda Trystan yn glaf yn Llydaw a'i wraig, Esyllt Llydaw yn tendio arno. Mae Trystan yn cofio'n ôl sut y bu iddo syrthio mewn cariad gydag Esyllt y chwedl wedi i'r ddau yfed diod hud; yn ddiweddarach mae Trystan yn llofruddio gwarchodwr er mwyn cael mynediad ati. Yn ddiweddarach mae'n cael ei glwyfo mewn brwydr a ffoi i Lydaw rhag dicter y brenin March, sef gwr Esyllt. Priododd Trystan Esyllt Llydaw drwy ymdeimlad o ddyled iddi am ei dendio, ac am fod ganddi'r un enw ag Esyllt y chwedl: wrth glywed Trystan yn ei dwymyn yn adrodd enw Esyllt, mae Esyllt Llydaw wedi cymryd ei bod mewn cariad â hithau, ac nid yr Esyllt wreiddiol.

Daw'r awydd ar Trystan i weld Esyllt unwaith eto ac mae'n anfon ei was i ymofyn iddi ddod i'w weld cyn iddo farw; bydd hwyliau'r llong yn wyn os yw Esyllt arni ac yn ddu fel arall. Mae'r hwyliau'n wyn, ond mae Esyllt Llydaw yn dweud celwydd wrtho'n fwriadol gan ei bod hi'n genfigennus o'i gariad; mae Trystan yn marw gan feddwl bod Esyllt wedi'i anghofio.

Cystadleuaeth y Goron

golygu

Dim ond un ar hugain oed oedd W. J. Gruffydd adeg y gystadleuaeth ond roedd eisoes yn gymharol adnabyddus fel bardd yn sgil cyhoeddiad Telynegion yn 1900, ei gyfrol ar y cyd â'i gyfaill R. Silyn Roberts. Cystadlodd Silyn a Gruffydd ill dau am y Goron, ond Silyn fu'n fuddugol. Honnodd Gruffydd ar y pryd mai "ail agos" fu ei gerdd yntau ym marn y beirniaid, er nad oes tystiolaeth am yr honiad hwn.[1]

Cyhoeddwyd dwy fersiwn o'r gerdd. Yn fuan ar ôl yr Eisteddfod cyhoeddwyd y gerdd ynghyd ag Awdl aflwyddiannus Alafon ar Ymadawiad Arthur, sef testun y gadair ym Mangor, a thelynegion gan Eifion Wyn mewn cyfrol dan y teitl Yr Awdl, y Bryddest a'r Telynegion (ail-oreu). Y fersiwn hwn sydd agosaf at y gerdd a gyflwynodd Gruffydd i'r gystadleuaeth. Yn 1906, cyhoeddwyd fersiwn newydd, byrrach o'r gerdd yn Caneuon a Cherddi Gruffydd gyda rhai newidiadau.[2]

Trystan ac Esyllt oedd y cyntaf o ddwy gerdd i Gruffydd gyflwyno ar gyfer y Goron. Yr ail oedd Yr Arglwydd Rhys, a enillodd Coron Eisteddfod 1909.

Beirniadaeth

golygu

Ym marn Alun Llywelyn-Williams roedd cerddi Gruffydd a Silyn ill dau'n ymosod ar foesoldeb cul a phriodoldeb; dadleuodd bod y ffaith bod cerdd Gruffydd yn fwy herfeiddiol yn cynnig un rheswm posib dros roi'r goron i Silyn.[3] Fodd bynnag, bai ar y gerdd ym marn T. Robin Chapman yw nad yw'n glir pa un ai llais y bardd ei hun, llais y traethydd neu lais Trystan sydd yn siarad yn ngwahanol rannau o'r gerdd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Chapman, T. Robin (1993) W. J Gruffydd (Dawn Dweud) Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
  2. Gruffydd, W. J. (1906) Caneuon a Cherddi Jarvis & Foster.
  3. Llywelyn-Williams, Alun (1960) Y Nos, y Niwl a'r Ynys: Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru