Prifddinas de facto gweriniaeth anghydnabyddedig De Ossetia yn y Cawcasws Deheuol sy'n cael ei chydnabod ar lefel ryngwladol fel rhan o Georgia yw Tskhinvali (sillefir hefyd fel Cchinvali neu Cxinvali; ynganiad 'Ts-cinfali') (Georgieg: ცხინვალი, Osseteg: Цхинвал neu Чъреба, Chreba). Yn ôl is-raniadau gweinyddol swyddogol Georgia, mae Tskhinvali yn ddinas yn rhanbarth Shida Kartli.

Tskhinvali
Mathdinas, municipality of Georgia Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCarpinus Edit this on Wikidata
Poblogaeth32,699 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1398 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTiraspol, Vladivostok Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Osetia, Provisional Administrative Entity of South Ossetia Edit this on Wikidata
GwladDe Osetia, Georgia Edit this on Wikidata
Arwynebedd17.46 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr860 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.22566°N 43.97007°E Edit this on Wikidata
Cod post7300 Edit this on Wikidata
Map
Cofeb i'r rhai fu farw yn y frwydr dros annibyniaeth, yn Tskhinvali

Mae'n gorwedd ar lan Afon Liakhvi Fawr tua 100 km (62 milltir) i'r gogledd-orllewin o Tbilisi, prifddinas Georgian. Ei phoblogaeth yw tua 20,000.

Ceir sawl adeilad canoloesol yn y ddinas: Eglwys Kavt'i San Sior, sy'n dyddio o tua'r 9g, yw'r hynaf.

Yn ystod y nos ar 7 Awst 2008, ymosododd unedau o fyddin Georgia ar safleoedd ym meddiant gwrthryfelwyr Ossetiaidd yn y ddinas gan gychwyn Rhyfel De Ossetia. Ymledodd yr ymladd y diwrnod canlynol a daeth milwyr a thanciau Rwsiaidd yno i gynorthwyo lluoedd heddwch Rwsiaidd. Yn ôl adroddiadau ar 8 Awst, lladdwyd rhai cannoedd (hyd at 1400 efallai) yn yr ymladd a ffoes nifer o ddinesyddion o'r ddinas am noddfa dros y ffin.