Rhyfel De Osetia (2008)

(Ailgyfeiriad o Rhyfel De Ossetia (2008))

Rhyfel ym mis Awst 2008 oedd Rhyfel De Osetia a ymladdwyd gan Georgia ar yr un ochr a Rwsia a llywodraethau ymwahanaidd De Osetia ac Abcasia ar yr ochr arall.

Map o'r rhyfel

Yn sgîl Rhyfel 1991–1992 yn Ne Osetia yr oedd tua hanner o Dde Osetia dan reolaeth de facto llywodraeth anghydnabyddedig a gafodd ei chefnogi gan Rwsia. Gosodwyd heddgeidwaid Georgiaidd, Rwsia, ac Osetaidd yn y diriogaeth. Bu sefyllfa debyg yn Abcasia wedi Rhyfel 1992–1993 yn y diriogaeth honno.

Yn ystod noson 7–8 Awst 2008, lansiodd Georgia ymgyrch ymosodol ar raddfa fawr yn erbyn De Osetia er mwyn ceisio ailgipio'r diriogaeth. Honodd yr oedd yn ymateb i ymosodiadau ar ei heddgeidwaid a phentrefi Georgiaidd yn Ne Osetia a bod Rwsia yn symud lluoedd i mewn i'r wlad nad oeddent yn heddgeidwaid. Er cafodd yr ymgyrch ei gwrthsefyll gan heddgeidwaid Rwsiaidd ac aelodau milisia Osetaidd, llwyddodd Georgia i gipio'r mwyafrif o Tskhinvali o fewn oriau. Ymatebodd Rwsia trwy ddanfon lluoedd i Dde Osetia a lansio cyrchoedd awyr yn erbyn lluoedd Georgia yn Ne Osetia ac yn erbyn targedau milwrol a logistaidd yn Georgia, gan honni yr oedd yn gweithredu yn achos ymyrraeth ddyngarol a gorfodi'r heddwch. Brwydrodd lluoedd Rwsia a'r Osetiaid yn erbyn Georgia yn Ne Osetia am bedwar diwrnod. Ar 9 Awst, dechreuodd llynges Rwsia blocâd ar ran o arfordir Georgia, a gosodwyd môr-filwyr ar arfordir Abkhazia. Ceisiodd llynges Georgia i ymyrryd ond cafodd ei threchu mewn ysgarmes yn y Môr Du. Agorodd lluoedd Rwsia ac Abkhazia ail ffrynt i'r rhyfel gan ymosod ar Geunant Kodori, oedd dan reolaeth Georgia. Enciliodd lluoedd Georgia o Dde Osetia wedi pum diwrnod o frwydro, gan alluogi'r Rwsiaid i dreiddio i dir Georgia a meddiannu dinasoedd Poti, Gori, Senaki, a Zugdidi.

Cytunwyd ar gadoediad cychwynnol ar 12 Awst dan gyflafareddiad Ffrainc, oedd yn dal arlywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd ar y pryd, ac arwyddwyd gan Georgia ar 15 Awst yn Tbilisi ac gan Rwsia un ddiwrnod wedyn ym Moscfa. Wythnosau wedi i'r cadoediad gael ei arwyddo, enciliodd Rwsia y mwyafrif o'i lluoedd o Georgia, ond sefydlodd gwahandiroedd o gwmpas Abcasia a De Osetia.