Twmbarlwm

bryngaer yn Nhorfaen

Mynydd i'r gogledd-ddwyrain o dref Rhisga ym mwrdeistref sirol Caerffili yw Twmbarlwm, uchder 419m ac arwynebedd o 4.14 hectar (deg erw).

Twmbarlwm
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhisga Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr419 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6272°N 3.0962°W Edit this on Wikidata
Cod OSST2421792611 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd48 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM044 Edit this on Wikidata
Clawdd y fryngaer, Twmbarlwm

Ceir gweddillion bryngaer o'r Oes Haearn ger gopa'r mynydd. Credir iddi gael ei chodi gan lwyth Celtaidd a drigai yn yr ardal cyn ac yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru. Mae'n fryngaer ag iddi un mur un unig gyda dau fwlch mawr ynddo. Yn ei phen dwyreiniol geir olion castell mwnt a beili bychan a fanteisiai ar yr hen safle amddiffynnol.

Gwelir y mwnt yn glir a cheir golygfeydd o Fôr Hafren a Chaerdydd. Mae'n rhan o Ffordd Goedwig Cwm-carn ac mae bellach yn atyniad poblogaidd i gerddwyr.

Cyfeiriadau

golygu