Rhaglen gerddoriaeth Gymraeg o'r 1970au oedd Twndish a ddarlledwyd ar BBC Cymru. Cyflwynwyd y gyfres gan Iestyn Garlick. Cynhyrchwyd y gyfres gan Ruth Price a fe'i cyfarwyddwyd gan Peter Edwards.[1]

Twndish
Genre Cerddoriaeth
Cyflwynwyd gan Iestyn Garlick
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Cymru
Rhediad cyntaf yn 1978-1980

Roedd y rhaglen yn rhoi sylw i fandiau o Gymru nad oedd yn canu yn y Gymraeg ac roedd ymateb cymysg i'r rhaglen. Fe'i beirniadwyd yn y cylchgrawn pop Sgrech a roddodd y llysenw 'Twnshit' i'r rhaglen.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  ELIFFANT -Stori Wir!. Geraint Griffiths (2014). Adalwyd ar 3 Ebrill 2017.
  2. Ond oedden nhw'n ddyddiau da? , BBC Cymru Fyw, 30 Mawrth 2017. Cyrchwyd ar 4 Ebrill 2017.

Dolenni allanol golygu