Ruth Price
Cynhyrchydd teledu o Gymraes oedd Ruth Price (1924 – 23 Chwefror 2019).[1]
Ruth Price | |
---|---|
Ganwyd | 1924 Mathri |
Bu farw | 23 Chwefror 2019 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd radio |
Cyflogwr |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganwyd ym Mathri yn Sir Benfro, a cychwynnodd ei gyrfa fel athrawes. Daeth yn brifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf ym Mhontarddulais. Bu farw yng Nghaerdydd yn 95 oed.
Gyrfa
golyguYm 1961, fe'i denwyd i'r BBC gan Sam Jones a daeth yn gynhyrchydd rhaglenni radio i blant ym Mangor. Roedd hi'n gyfrifol am Awr y Plant a creodd y gyfres gerddoriaeth boblogaidd i blant, Clywch, Clywch ar fore Sadwrn.
Yn 1963, symudodd wedyn i dîm adloniant ysgafn Cymraeg y BBC yng Nghaerdydd, o dan y pennaeth Meredydd Evans. Roedd yn gynhyrchydd y rhaglen gerddoriaeth gwerin Hob y Deri Dando. Roedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu y rhaglen gerddoriaeth bop cyntaf yn y Gymraeg, Disc a Dawn lle ymddangosodd Max Boyce a Mary Hopkin am y tro cyntaf ar deledu. Yn ôl Hywel Gwynfryn roedd Ruth hefyd yn gyfrifol am ddarganfod Meic Stevens, a oedd wedi bod yn canu yn Llundain. Byddai Ruth yn comisiynu cyfieithiadau o ganeuon Saesneg poblogaidd i'w perfformio yn Gymraeg ar y sioe.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teyrngedau i’r cynhyrchydd teledu, Ruth Price, sydd wedi marw yn 95 oed , Golwg360, 25 Chwefror 2019.
- ↑ Y cynhyrchydd arloesol Ruth Price wedi marw yn 95 oed , BBC Cymru Fyw, 24 Chwefror 2019. Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2019.