Peter Edwards

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Flint, Michigan yn 1947

Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu o Gymro oedd Peter Merfyn Edwards (Hydref 194711 Medi 2016). Gweithiodd ar amryw o raglenni teledu a ffilmiau yn Gymraeg a Saesneg.

Peter Edwards
GanwydHydref 1947 Edit this on Wikidata
Y Fflint Edit this on Wikidata
Bu farw12 Medi 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd yn Y Fflint a fe'i magwyd yn Nghilcain, Sir y Fflint. Ei dad oedd yr actor ac awdur Meredith Edwards a'i fam oedd Daisy Clark. Aeth i Ysgol Ramadeg Alun yn yr Wyddgrug ac aeth i wneud gradd Drama/Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Hull. Bu'n byw yng Nghaerdydd ers canol y 1970au.[1]

Roedd yn briod gyda Delyth a roedd ganddynt ddau o blant. Bu farw yn ei gartref yn 68 oed.[2]

Cychwynnodd fel 'roadie' ar gyfer cwmni theatr Hull Truck Theatre cyn gweithio am flwyddyn fel athro drama ym Merthyr Tydfil. Yna ymunodd â BBC Cymru lle cyfarwyddodd rhaglenni cerddoriaeth pop a drama yn cynnwys Bowen a'i Bartner ar gyfer S4C. Cyfarwyddodd y ddrama arobryn Penyberth ar gyfer BBC Cymru yn 1985 cyn ymuno â thîm cychwynnol yr opera sebon EastEnders. Fe ffurfiodd ei gwmni cynhyrchu annibynnol Lluniau Lliw yn 1986, cwmni a gynhyrchodd nifer o raglenni drama i S4C yn yr 1980au a 1990au, yn cynnwys cyfresi Yr Heliwr, Mwy na Phapur Newydd, a'r ffilm Pum Cynnig i Gymro.

Bu hefyd yn bennaeth drama ac uwch-gynhyrchydd gyda ITV Cymru rhwng 1998 a 2009 a gweithiodd ar y ddrama Nuts and Bolts.[3] Roedd yn gynhyrchydd ar y cyd i'r ffilm A Way of Life (2004), a enillodd yr "Alfred Dunhill UK Film Talent Award" yng Ngwyl Ffilmiau Llundain 2004. Yn fwy diweddar cyd-sefydlodd y cwmni annibynnol Barefoot Rascals a gynhyrchodd nifer o raglenni adloniant ffeithiol ar gyfer ITV Cymru.[4]

Edwards oedd cadeirydd cyntaf Ffilm Cymru a bu'n gadeirydd ar TAC, y corff sy'n cynrychioli cynhyrchwyr annibynnol.[5][6]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Enillydd Oscar yn canmol y diwydiant ffilm yng Nghymru. S4C (30 Ebrill 2015).
  2.  EDWARDS Peter : Obituary. bmdsonline.co.uk (17 Medi 2016).
  3. Y cyfarwyddwr Peter Edwards wedi marw , Golwg360, 13 Medi 2016.
  4. Distinguished Head of Drama at HTV Wales, Peter Edwards, has died (en) , ITV Wales News, 13 Medi 2016. Cyrchwyd ar 14 Medi 2016.
  5. Teyrngedau i gyfarwyddwr 'hynod o ddawnus' , BBC Cymru Fyw, 13 Medi 2016.
  6.  Proffil LinkedIn.

Dolenni allanol

golygu