Culfor Dover
Culfor ym man culaf y Môr Udd, sy'n gwahanu Prydain Fawr a chyfandir Ewrop, yw Culfor Dover[1] neu Culfor Dofr[2] (Saesneg: Dover Strait neu Straits of Dover; Ffrangeg: Pas de Calais). Dyma'r ffin rhwng y Môr Udd i'r de-orllewin a Môr y Gogledd i'r gogledd-ddwyrain.
Math | culfor |
---|---|
Enwyd ar ôl | Calais, Dover |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Ffrainc |
Yn ffinio gyda | Sangatte |
Cyfesurynnau | 51°N 1.45°E |
Mae pwynt culaf y culfor i'w gael o bentir South Foreland, i'r gogledd-ddwyrain o borthladd Dover, Caint, De-ddwyrain Lloegr, i bentir Cap Gris-Nez, ger Calais yn département Pas-de-Calais, Ffrainc – pellter o 33.3 km (20.7 mi). Rhwng y pentiroedd hyn yw'r ffordd fwyaf poblogaidd i nofwyr traws-sianel.
Mae'r culfor cyfan o fewn dyfroedd tiriogaethol Ffrainc a'r Deyrnas Unedig, ond mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr yn caniatáu i longau gwledydd eraill fynd drwodd heb gyfyngiad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr Atlas Cymraeg Newydd
- ↑ Geiriadur yr Academi, Dover > the Straits of Dover.