Twrog
sant Cymreig o'r 6-7C
Sant o'r chweched neu'r 7g oedd Twrog. Yn ôl yr achau roedd yn fab i Ithel Hael.
Twrog | |
---|---|
Sant Twrog; llun o ffenestr liw yn Eglwys Sant Twrog, Maentwrog, Gwynedd. | |
Ganwyd | Teyrnas Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Hanes a thraddodiad
golyguDywedir iddo sefydlu eglwys yn Llandwrog (ger Caernarfon, Gwynedd). Twrog yw nawddsant Maentwrog ym Meirionnydd (de Gwynedd) hefyd. Yn ogystal mae'n nawddsant Bodwrog ym Môn.[1]
Ym Maentwrog ceir carreg anferth yng ngongl yr eglwys, sy'n wahanol i'r cerrig eraill ynddi, ac a elwir wrth yr enw Maen Twrog. Yn ôl traddodiad taflodd y sant y maen mawr o ben y Moelwynion.[1]
Ei wylmabsant yw 26 Mehefin (hefyd 15 Awst).