Ffilm Gymraeg yw Ty'd Yma Tomi! sy'n adrodd hanes actores adnabyddus yn symud o Gaerdydd i gefn gwlad Cymru. Rhyddhawyd y ffilm ym 1984 gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg ac fe'i ddarlledwyd ar S4C ar 1 Mawrth 1985.

Ty'd Yma Tomi!
Cyfarwyddwr Gareth Wynn Jones
Cynhyrchydd Norman Williams
Ysgrifennwr Siwan Jones
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Amser rhedeg tua 80 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Seiliwyd y ffilm ar sgript Siwan Jones a enillodd y wobr am 'Sgript ddramatig orau' yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1983.

Cyfarwyddwr y ffilm oedd Gareth Wynn Jones a'r cynhyrchydd oedd Norman Williams. Roedd y cast yn cynnwys Gwen Ellis, Iola Gregory a John Ogwen.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.