Siwan Jones
sgriptiwr a aned yn 1956
Awdur a sgriptiwr o Gymru yw Siwan Jones (ganwyd Medi 1956). Mae'n gyfrifol am greu a sgriptio rhai o ddramau teledu mwyaf poblogaidd a llwyddiannus S4C, yn cynnwys Tair Chwaer, Con Passionate, Alys a 35 Diwrnod.[1]
Siwan Jones | |
---|---|
Ganwyd | Medi 1956 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, sgriptiwr, actor |
Perthnasau | Saunders Lewis |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganwyd i Haydn Jones a Mair Gras Saunders Jones, merch Saunders Lewis.[2] Bu'n actores yn yr 1980au gan actio ar Coleg, Y Cleciwr a sgriptio ar Dinas.
Yn 1983, enillodd y wobr am 'Sgript ffilm ddramatig' yn Eisteddfod Genedlaethol Môn.[3] Cynhyrchwyd ffilm o'r sgript gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg dan y teitl Ty'd Yma Tomi!. Darlledwyd y ffilm ar S4C ar 1 Mawrth 1985.
Roedd yn briod ag Emyr Wyn ac mae'n fam i'r actor Siôn Ifan.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cynhyrfu Cytgord y Côre. BBC Cymru (Rhagfyr 2004). Adalwyd ar 13 Mawrth 2019.
- ↑ JONES Mair Gras Saunder (1 Chwefror 2011).
- ↑ Woodward, Kate. Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.
Dolenni allanol
golygu- Siwan Jones ar wefan Internet Movie Database