Sant Cymreig oedd Tyfrydog (bl. 6C). Ef a sefydlodd eglwys Llandyfrydog ar ynys Môn, yn ôl traddodiad. Dethlir gŵyl Tyfrydog ar Ddydd Calan (1 Ionawr).

Tyfrydog
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Cysylltir gydaLlandyfrydog Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Ionawr Edit this on Wikidata
Eglwys Tyfrydog Sant, Llandyfrydog.

Hanes a thraddodiad golygu

Ychydig iawn o wybodaeth sydd amdano. Yn ôl achau'r saint, roedd yn un o feibion Arwystli Gloff gan Dynwynedd ferch Amlawdd Wledig, ac felly o dras frenhinol.[1]

Ceir hanesyn gan Gerallt Gymro am 'ddial' y sant ar Huw Flaidd, Iarll Caer, yn 1098. Yn ôl Gerallt,

Ar yr ynys hon, hefyd, y mae eglwys Sant Tyfrydog, cyffeswr. Pan letyodd Huw, Iarll Caer... ei gŵn dros nos ynddi, cafodd hwynt drannoeth y bore i gyd yn wallgof; a cyn pen mis syrthiodd ef ei hun yn farw mewn modd truenus.[2]

Lladdwyd Huw Flaidd fis ar ôl hynny gan Magnus III, brenin Norwy, mewn brwydr ar Afon Menai.

Cyfeiriadau golygu

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. Gerallt Gymro, Hanes y Daith Trwy Gymru, gol. Thomas Jones yn Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), tud. 132.