Llandyfrydog

pentref ar Ynys Môn

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Rhosybol, Ynys Môn, yw Llandyfrydog.[1][2] Saif yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, tua 5 milltir i'r gorllewin o bentref Moelfre a thua 2 filltir i'r dwyrain o Lannerch-y-medd.

Llandyfrydog
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTyfrydog Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTyfrydog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3416°N 4.3389°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH443853 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Hanes a hynafiaethau golygu

Enwir Llandyfrydog ar ôl Sant Tyfrydog (diwedd y 6g?). Ger Clorach, ceir y maen hir Carreg Leidr, a enwir felly am fod dyn a ladratodd Feibl yr eglwys wedi cael ei droi'n garreg am ei gamwedd, yn ôl y chwedl. Bob Nos Nadolig mae'r maen yn fod i symud o amgylch yr eglwys deirgwaith. Hanner milltir i'r gogledd o'r eglwys ceir cromlech Maen Chwyf.[3]

Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf Llandyfrydog yng nghwmwd Twrcelyn. Yn ail hanner y 14g, roedd gan y bardd Gwilym ap Sefnyn, mab y bardd Sefnyn, gyfran o dir yn Llandyfrydog (brodor o Lanbabo, 4 milltir i'r gorllewin, oedd ei dad, yn ôl pob tebyg).

Pobl o Landyfrydog golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001)