Tynged yr Iaith
Darlith radio gan Saunders Lewis a ddarlledwyd gan y BBC ar 13 Chwefror 1962 oedd Tynged yr Iaith, ac un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | araith |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Hanes
golyguDarlith Radio flynyddol y BBC ydoedd. Mae'n sôn am "frad Tryweryn", a dywedodd mai'r Gymraeg oedd yr "unig fater politicaidd ... werth i Gymro ymboeni ag ef". Roedd y ddarlith yn feirniadaeth lem ar arweinyddiaeth Gwynfor Evans Llywydd Plaid Cymru. Dadleuodd fod angen plaid fyddai'n cefnogi pobl fel Eileen a Trefor Beasley a oedd yn brwydro dros y Gymraeg. Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon ac wynebu carchar am eu daliadau. Er bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yn gostwng, datganodd : "Fe ellir achub y Gymraeg", ac mai "Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo".
Canlyniad y ddarlith oedd esgor ar sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn ei lythyr at Saunders Lewis (dyddiedig 21 Gorffennaf 1963), dywed Owain Owain, '...hoffwn i chwi gael gwybod fod eich sgwrs radio yn dwyn ffrwyth ar ei milfed (os byw'r Gymraeg yn yr 21 Ganrif, i chwi mae'r diolch).'[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Tynged yr Iaith. Adargraffiad. Gwasg Gomer 2012. ISBN 9781848514799
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gweler wefan http://www.owainowain.net/ygymdeithas/Saunders/1.jpg