Tyno Helig

tywysog Cymreig
(Ailgyfeiriad o Tyno Helyg)

Mewn chwedloniaeth Gymreig, teyrnas o foddwyd gan y môr oedd Tyno Helig neu Tyno Helyg. Mae'r thema yn debyg i thema chwedl Cantre'r Gwaelod.

Dywedir fod Tyno Helig (Pant neu Ddyffryn Helig) yn deyrnas oedd yn ymestyn tua'r dwyrain o Ben y Gogarth gerllaw Llandudno. Arglwydd y deyrnas oedd Helig ap Glannawg, a'i lys oedd Llys Helig. Mae nifer o fersiynau o'r chwedl, ond yn ôl un, syrthiodd merch Helig mewn cariad a gŵr ifanc tlawd. Dywedodd Helig y byddai'n caniatau iddynt briodi pe dychwelai'r gŵr ifanc gyda thorch aur. Llofruddiodd y gŵr ifanc uchelwr cyfoethog i gael y dorch, a phriodwyd hwy. Yn y wledd briodas clywyd llais yn galw "Dial a ddaw, dial a ddaw". Pan ofynnwyd pryd y deuai'r dial, dywedwyd mai yn amser eu gor-wyrion y deuai.

Bu'r ferch a'i gŵr fyw yn hen, a ganed gor-ŵyr iddynt. Tra cynhelid gwledd i ddathlu ei enedigaeth, boddwyd Tyno Helig gan y môr. Dywedir fod modd gweld gweddillion Llys Helig i'r gorllewin o Ben y Gogarth gyferbyn Penmaenmawr ar lanw isel iawn, ac enwyd stad o dai moethus yn yr ardal yn "Llys Helig".

Yn ei lyfr Sunken Cities (Caerdydd, 1957), dadleuodd F. J. North fod chwedl Tyno Helig wedi ei "drawsblannu" o Fae Ceredigion (lleoliad Cantre'r Gwaelod) yn amser Syr John Wynn o Wydir (16g), ond ceir cyfeiriad mewn cerdd gan y bardd canoloesol Mab Clochyddyn (hanner cyntaf y 14g) at Dyno Helig mewn cysylltiad â Llan-faes, ar lan Afon Menai gyferbyn i Abergwyngregyn. Yn ogystal mae un o gyfoeswyr Mab Clochyddyn, Gronw Gyriog, yn cyfeirio at Dyno Helig mewn cerdd i Matthew de Englefield, esgob Bangor. Ymddengys felly fod y chwedl yn adnabyddus ar lafar ar lannau Menai yn y 14g ac felly'n ymestyn yn ôl ymhellach na hynny hefyd.

Gweler hefyd

golygu