Mab Clochyddyn

bardd Cymreig

Bardd Cymraeg sy'n perthyn i do cyntaf Beirdd yr Uchelwyr oedd Mab Clochyddyn (fl. hanner cyntaf y 14g). Gellir derbyn yn weddol hyderus ei fod yn frodor o Fôn.[1]

Mab Clochyddyn
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1380 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ni wyddom fawr dim amdano ond mae ei waith yn ei gysylltu ag Ynys Môn (gweler isod). Enw barddol yw 'Mab Clochyddyn'. Amlwg fod 'Clochyddyn' (clochydd bychan neu druenus) yn cyfeirio at dad y bardd. Ceir cofnod o un Dafydd ap Clochyddyn yn byw yn Nhalybolion yn 1347, ond er bod y bardd wedi canu i ferch o'r cwmwd hwnnw (gweler isod) ni ellir bod yn sicr mai cyfeiriad ato ydyw.[1]

Cerddi golygu

Mae'r ddwy gerdd o'i waith sydd yn goroesi yn ei gysylltu ag Ynys Môn. Marwnad i Wenhwyfar, merch o Edeirnion a ddaeth yn wraig i uchelwr o blwyf Llanfechell, cwmwd Talybolion, ac a gladdwyd yn Llan-faes, yw'r cyntaf a'r pwysicaf o'r ddau destun. Canodd Gronw Gyriog farwnad iddi hefyd.[1]

Dau englyn dychan, rhan o gerdd hirach efallai, i ryw "ffalsiwr" (bardd o radd isel, un o'r Glêr efallai) yn bygwth dial arno pe ddychwelai i Fôn yw'r ail destun.[1]

Cedwir testunau cynharaf y ddwy gerdd hyn yn Llyfr Coch Hergest.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Golygir gwaith y bardd gan W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen yn,

  • Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997).