Undeb Pêl-droed Denmarc
Y Dansk Boldspil Union (DBU), Undeb Pêl-droed Denmarc, yw corff llywodraethol pêl-droed yn nheyrnas Denmarc. Dyma'r corff sy'n goruchwilio Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Denmarc, tîm cenedlaethol merched Denmarc, goruchwilio'r clybau, rhedeg y cynghreiriau. Fe lleolir ei phencadlys yn ninas Brøndby ac mae'n un o aelodau sefydliadol FIFA yn 1904 ac UEFA yn 1954. Y DBU hefyd yw corff llywodraethol futsal Denmarc ers 2008.
UEFA | |
---|---|
[[File:|150px|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 18 Mai 1889 |
Aelod cywllt o FIFA | 1904 |
Aelod cywllt o UEFA | 1954 |
Llywydd | Jesper Møller (2014–) |
Gwefan | www.dbu.dk |
Un o nodweddion y gymdeithas yw defnydd o ffont Art Nouveau ar ei bathodyn chwaethus.
Maint yr Undeb
golyguYn 2013, roedd gan yr DBU 341,342 o aelodau (270,791 o ddynion a 70,551 o fenywod) ar gyfer 16,721 clwb.[1].
Sefydlu
golyguSefydlwyd y DBU yn 1889 a hi oedd y Gymdeithas Bêl-droed genedlaethol gyntaf i'w sefydlu y tu allan i wledydd Prydain ac Iwerddon.[2] Serch hynny, ni wnaeth gofrestru gemau'n swyddogol nes Gemau Olympaidd 1908. Golyga hyn nad yw'r gemau a enillwyd yng nghystadleuaeth Intercalated 1906 wedi eu cofnodi'n swyddogol gan y DBU.
Strwythur y Cystadlaethau
golyguDynion
golygu- Cynghrair
- Superliga
- 1. Division)
- 2. Division (ceir cynghrair Dwyrain a cynghrair Dwyrain)
- Danmarksserien (3 grŵp)
- Cwpan
Merched
golygu- Cynghrair Elite (Elite Divisionen)
- 1. Division
- Danmarksserien (3 grŵp)
- Landspokalturneringen (Cwpan Merched Denmarc)
Strwythur Rhanbarthol
golyguRhennir y DBU i 6 gymdeithas ranbarthol sy'n seiliedig ar gyn siroedd Denmarc:
- DBU Jutland, which in turn is separated into 4 regions:
- Rhanbarth 1: Sir Nordjylland
- Rhanbarth 2: Sir Viborg a Sir Ringkjøbing
- Rhanbarth 3: Sir Århus a Sir Vejle
- Rhanbarth 4: Sir Ribe an Sir De Jutland
- DBU Funen: Sir Funen
- DBU Zealand: Sir West Zealand, Sir Roskilde, Sir Frederiksborg, Sir Copenhagen a rhan Zealand o Sir Storstrøm
- DBU København: Frederiksberg a bwrdeisdrefi Copenhagen
- DBU Lolland-Falster: Rhan tu allan i Zealand o Sir Storstrøm
- DBU Bornholm: Bwrdeisdref Bornholm
Mae gan Ynysoedd Ffaröe a'r Ynys Las, sy'n wledydd hunanlywodraethol o fewn Teyrnas Denmarc, eu cymdeithasau pêl-droed eu hunain nad sy'n rhan o'r DBU. Yr Ynys Las yw'r unig wlad nad sy'n aelod o FIFA nac unrhyw gorff cyfandirol. Mae Ynysoedd y Ffaroe yn aelodau o FIFA ac UEFA.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Medlemstal 1910-2013 sur le site officiel de la DBU
- ↑ uefa.com. "Denmark - Member associations - Inside UEFA – UEFA.com". UEFA.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-15. Cyrchwyd 19 March 2018.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol y DBU
- Denmark Archifwyd 2018-07-20 yn y Peiriant Wayback ar wefan FIFA
- Denmark ar wefan UEFA