Undeb Pêl-fas Cymru

Undeb Pêl-fas Cymru, UPFC (Saesneg: Welsh Baseball Union, WBU) yw corff llywodraethu cenedlaethol pêl fas Gymreig yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 1892.[1]

Undeb Pêl-fas Cymru
Dechrau/Sefydlu1892 Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata

Mae'n aelod o'r Bwrdd Pêl-fas Rhyngwladol. Mae'r WBU yn trefnu cynghrair dynion ac ieuenctid a chystadlaethau cwpan, yn ogystal â dewis a rheoli timau rhyngwladol Cymru ar lefel oedolion ac ieuenctid.[2][3]

Mae Undeb Pêl-fas Cymru wedi'i leoli yng Nghaerdydd.[3]

Hanes a Chyd-destun

golygu

Erbyn 1921 roedd 60 o glybiau a 1,400 o chwaraewyr wedi’u cofrestru gan Undeb Pêl-fas Cymru, yn ôl yr hanesydd Martin Johnes. ond ni ledaenodd y gamp y tu allan i Gaerdydd a Chasnewydd. Roedd yn gêm dosbarth gweithiol i raddau helaeth, gyda chysylltiad cryf â chymunedau canol dinas Caerdydd, tra byddai chwaraewyr rygbi a phêl-droed yn chwarae pêl fas yn ystod y tu allan i’r tymor. Roedd y rhain yn bobl na allent fforddio chwarae criced, neu nad oedd ganddynt ddiddordeb mewn criced.

Daeth pêl fas yn “sylfaenol fel prif gamp yr haf” yng Nghaerdydd a Chasnewydd, er na chafodd y rheolau eu safoni’n llawn tan 1927.[4]

Dirywiad ac Adfer

golygu

Yn dilyn cyfnod o drai gyda chynghrair gystadleuol yr Undeb yn dod i ben yn 2017, fe'i hadnewyddwyd yn 2021. Yn 2022 cynhaliwyd ymdrech bwriadol gan UPFC ac UNPFMC i hyrwyddo'r gêm ymhlith disgyblion ysgol De-ddwyrain Cymru gan roi cyflyniadau ac hyfforddiant yn y gêm i athrawon chwaraeon a chynnal gwersi a gemau pêl-fas i ferched ac i fechgyn. Bwriwyd i'r holl ymdrech fod yn llwyddiant gyda'r uchafbwynt bod dros 400 o ddisgyblion yn cwrdd i greu 27 tîm i gystadlu mewn gŵyl chwaraeon. Y gobaith yw y bydd y disgyblion ysgol yn ymuno â thimau lleol maes o law.[5]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "NGB websites:About us:Sport Wales-Chwaraeon Cymru". Sport Wales-Chwaraeon Cymru website. Chwaraeon Cymru. 2010. Cyrchwyd 7 Ebrill 2011.
  2. "WalesOnline - Sport - Grassroots - Rhondda - Baseball:Rhondda sponsor for Wel". WalesOnline website. Welsh Media Ltd. 2009-04-09. Cyrchwyd 2009-07-11.
  3. 3.0 3.1 "Weltch Media contact Weltch Media in Cardiff". WalesOnline website. Weltch Media Ltd. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-15. Cyrchwyd 2009-07-11.
  4. Donovan, Owen (1 Medi 2012). "Whatever happened to Welsh baseball?". Gwefan Institue of Welsh Affairs.
  5. "'It will keep our game alive' - the plan to save Welsh baseball". BBC Sport. 26 Gorffennaf 2022.

Dolenni allanol

golygu