Unigolyn
person, anifail, neu beth unigol
(Ailgyfeiriad o Unigoliaeth)
Person unigol penodol o fewn grŵp, megis cymuned neu gymdeithas, yw unigolyn. Unigoliaeth yw'r cyflwr o fod yn unigolyn ag anghenion ac amcanion personol ar wahân i bersonau eraill. Mae nifer o agweddau amrywiol ar yr unigolyn yng nghrefyddau, athroniaethau, ac ideolegau gwahanol. Er enghraifft, mae rhyddewyllysiaeth a Gwrthrychiaeth yn rhoi pwyslais canolog i ryddid ac annibyniaeth yr unigolyn, ac mae hyn hefyd yn bwysig yn rhyddfrydiaeth a cheidwadaeth.