Uniondeb corfforol
Uniondeb corfforol (Saesneg: Bodily integrity) yw anhyfywedd (inviolability) corff person; mae'n pwysleisio ymreolaeth bersonol, hunan-berchnogaeth, a hunanbenderfyniad bodau dynol dros eu cyrff eu hunain. Ym maes hawliau dynol, mae tramgwyddo yn erbyn corff rhywun arall yn cael ei ystyried yn drosedd anfoesegol, yn ymwthiol, ac o bosibl yn drosedd.[1][2][3][4][5][6]
Enghraifft o'r canlynol | hawliau sylfaenol |
---|
Llywodraeth a chyfraith
golyguIwerddon
golyguYn Iwerddon, mae uniondeb y corff wedi'i gydnabod gan y llysoedd fel hawl heb ei rhifo (unenumerated right), a warchodir gan y warant gyffredinol o “hawliau personol” a geir yn Erthygl 40 o gyfansoddiad Iwerddon. Yn Ryan v Twrnai Cyffredinol dywedwyd bod “gan berson hawl i fod yn rhydd o ymyrraeth gan arall ei gorff neu berson. Mae hyn yn golygu na ddylai'r Wladwriaeth wneud unrhyw beth i niweidio'ch bywyd na'ch iechyd. Maer gan berson yn y ddalfa yr hawl i beidio peryglu iechyd y person."[7][8]
Mewn achos ar wahân M (Mewnfudo - Hawliau'r Hwn sydd Heb ei Eni) -v- Gweinidog dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb ac ors, dyfarnodd Goruchaf Lys Iwerddon fod yr hawl i uniondeb corfforol yn ymestyn i'r rhai sydd heb eu geni.[9]
Unol Daleithiau America
golyguMae'r Pedwerydd Gwelliant i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau'n nodi "Na chaiff hawl y bobl i fod yn ddiogel ei dorri, a hynny o ran diogelwch y person, yn eu cartref, mewn dogfennaeth, ac yn erbyn archwilio a chipio neu ddal pobl yn afresymoli". Hefyd, mae Goruchaf Lys yr UD wedi cadarnhau'r hawl i breifatrwydd, sydd, fel y mynegwyd gan Julie Lane, yn aml yn amddiffyn hawliau i uniondeb corfforol. Yn Griswold v. Connecticut (1965) roedd y Llys yn cefnogi hawliau merched i reolaeth geni ac atgenhedlu, heb ganiatâd priodasol. Yn yr un modd, cafodd hawl menyw i breifatrwydd pan gaiff erthyliad ei hamddiffyn gan Roe v. Wade (1973). Yn McFall v. Shimp (1978), dyfarnodd llys yn Pennsylvania na all person gael ei orfodi i roi mêr esgyrn, hyd yn oed pe bai rhodd o'r fath yn achub bywyd person arall.
Gwyrdroiodd y Goruchaf Lys Roe v. Wade (1973) ar 24 Mehefin, 2022.
Ymhlith yr enghreifftiau o uniondeb corfforol mae cyfreithiau sy'n gwahardd defnyddio cyffuriau, cyfreithiau sy'n gwahardd ewthanasia,[10] deddfau sy'n gofyn am ddefnyddio gwregysau diogelwch a helmedau, noeth-chwiliadau,[11] a phrofion gwaed gorfodol.[12]
Canada
golyguYn gyffredinol, mae Siarter Hawliau a Rhyddid Canada yn amddiffyn rhyddid personol a'r hawl i beidio ag ymyrryd ag ef neu hi. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau unigryw efallai y bydd gan y llywodraeth yr hawl i ddiystyru dros dro yr hawl i uniondeb corfforol er mwyn hirhau bywyd y person. Gellir disgrifio gweithredu o’r fath gan ddefnyddio’r egwyddor o ymreolaeth â chymorth,[13] cysyniad a ddatblygwyd i ddisgrifio sefyllfaoedd unigryw ym maes iechyd meddwl ee bwydo gorfodol person sy’n marw o’r anhwylder bwyta anorecsia nerfosa, neu driniaeth dros dro o berson sy'n byw ag anhwylder seicotig drwy ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig).
Un enghraifft o gyfraith yng Nghanada sy'n hyrwyddo uniondeb corfforol yw Deddf Caniatâd Gofal Iechyd Ontario (HCCA ). Mae a wnelo cyfraith Ontario â'r gallu i gydsynio i driniaeth feddygol. Mae’r HCCA yn datgan bod gan berson yr hawl i gydsynio i driniaeth neu i wrthod triniaeth os oes ganddo alluedd meddyliol. Er mwyn bod â galluedd (neu 'gapasiti), rhaid bod gan berson y gallu i ddeall a gwerthfawrogi canlyniadau ei benderfyniad i wrthod triniaeth.
Hawliau Dynol
golyguMae dwy ddogfen ryngwladol allweddol yn amddiffyn yr hawliau hyn: y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol a'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol. Ymhellach, mae'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau hefyd yn gofyn am warchod cyfanrwydd corfforol a meddyliol.[14]
Mae'r prosiect Hawliau Dynol a Hawliau Cyfansoddiadol, a ariennir gan Ysgol y Gyfraith Columbia, wedi diffinio pedwar prif faes o gamddefnyddio uniondeb corfforol posibl gan lywodraethau. Y rhain yw:
- Hawl i Fywyd,
- Caethwasiaeth a Llafur Gorfodol,
- Diogelwch y Person,
- Artaith,Triniaeth neu Gosb Annynol, Creulon neu Ddiraddiol.
Hawliau merched
golyguEr bod uniondeb corfforol yn cael ei roi i bob bod dynol, mae menywod yn cael eu heffeithio'n amlach o ran troseddau, trwy feichiogrwydd dieisiau, a mynediad cyfyngedig i offer atal cenhedlu. Rhoddwyd sylw i'r egwyddorion hyn yng Nghynhadledd Weithio CCL ar Hawliau Menywod fel Hawliau Dynol. Diffiniodd y gynhadledd uniondeb corfforol fel hawl haeddiannol pob merch: "mae uniondeb corfforol yn uno merched ac ni all unrhyw fenyw ddweud nad yw'n berthnasol iddyn nhw".[15]
Fel y’i diffinnir gan gyfranogwyr y gynhadledd, mae’r canlynol yn hawliau cyfanrwydd corfforol y dylid eu gwarantu i fenywod:
Hawliau plant
golyguMae'r ddadl dros hawliau plant i uniondeb corfforol wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.[16] Yn sgil achos llys Jerry Sandusky a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd,[17] mae rhieni wedi cael eu hannog yn gynyddol i hyrwyddo ymdeimlad eu plentyn o uniondeb corfforol fel dull o leihau bregusrwydd plant[18].
Mae dulliau o gynyddu ymdeimlad plant o ymreolaeth gorfforol yn cynnwys:
- Caniatáu i blant ddewis pryd i roi cwtsh/cusanau
- Annog plant i gyfathrebu am ffiniau
- Cynnig camau gweithredu amgen (ee Pawen Lawen, ysgwyd llaw, ac ati.)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Miller, Ruth Austin (2007). The Limits of Bodily Integrity: Abortion, Adultery, and Rape Legislation in Comparative Perspective. Ashgate Publishing. ISBN 9780754683391. Cyrchwyd 6 April 2021.
- ↑ Communication Technology And Social Change Carolyn A. Lin, David J. Atkin – 2007
- ↑ Civil Liberties and Human Rights Helen Fenwick, Kevin Kerrigan – 2011
- ↑ Xenotransplantation: Ethical, Legal, Economic, Social, Cultural Brigitte E.s. Jansen, Jürgen W. Simon, Ruth Chadwick, Hermann Nys, Ursula Weisenfeld – 2008
- ↑ Personal Autonomy, the Private Sphere and Criminal Law Peter Alldridge, Chrisje H. Brants - 2001, retrieved 29 May 2012
- ↑ Privacy law in Australia Carolyn Doyle, Mirko Bagaric – 2005
- ↑ Ryan v Attorney General [1965] 1 IR 294 at 295. Judgement by Kenny J: "That the general guarantee of personal rights in section 3 (1) of Art. 40 extends to rights not specified in Art. 40. One of the personal rights of the citizen protected by the general guarantee is the right to bodily integrity."
- ↑ "Right to Bodily Integrity". 2013-02-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-11. Cyrchwyd 2020-02-20.
- ↑ Judgement by the Irish Supreme Court: M (Immigration - Rights of Unborn) -v- Minister for Justice and Equality & ors, 7 March 2018.
- ↑ "States with Legal Physician-Assisted Suicide - Euthanasia - ProCon.org". Euthanasia (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-09-11.
- ↑ "Missouri v. McNeely: The Loss of Bodily Integrity in an Emerging Police State". 15 January 2013.
- ↑ Totenberg, Nina; Chappell, Bill (27 June 2019). "Supreme Court Affirms Police Can Order Blood Drawn from Unconscious DUI Suspects". NPR.
- ↑ "琪琪布电影网". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 August 2013. Cyrchwyd 23 February 2013.
- ↑ Convention on the Rights of Persons with Disabilities, Article 17
- ↑ 15.0 15.1 "Bodily Integrity and Security of Person". whr1998.tripod.com. Cyrchwyd 2020-02-20.
- ↑ Alderson, Patricia. Researching Children's Rights to Integrity in Children's Childhoods: Observed And Experienced. The Falmer Press, 1994.
- ↑ "Overheard on CNN.com: Are you a 'huggy' person? Would you make a child hug?" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-07. Cyrchwyd 2020-02-20.
- ↑ Hetter, Katia (20 June 2012). "I don't own my child's body". CNN. Cyrchwyd 2020-02-20.