Cyfansoddiad Iwerddon

cyfansoddiad Iwerddon

Cyfansoddiad Iwerddon (Gwyddeleg: Bunreacht na hÉireann; Saesneg: Constitution of Ireland) yw prif ffynhonnell cyfraith Iwerddon a dogfen, a luniwyd ym 1937, at ddibenion sefydlu egwyddorion sylfaenorl gwladwriaeth Gweriniaeth Iwerddon.

Baner Iwerddon a gadarnhawyd yn y Cyfansoddiad

Cyd-destun

golygu

Yn dilyn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon datganwyd 26 'ddeuheuol' o'r ynys yn Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a parhaodd 6 o siroedd talaith Ulster yn hunanlywodraethol ond o dan reolaeth Prydain> Gwelwyd yr angen i sefydlu cyfansoddiad i ddileu ansirwydd a rhoi cyfeiriad a statws i'r wladwrieth newydd.

Drafftio a drafftio'r Cyfansoddiad

golygu

Prif gyfarwyddwr a chreawdur y cyfansoddiad oedd Éamon de Valera, sef Taoiseach (Prif Weinidog) y wladwriaeth newydd-anedig o 1932 ymlaen. Roedd y cyfansoddiad newydd yn seiliedig ar gyfansoddiad Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a fabwysiadwyd yn 1922.[1]

Roedd sawl rheswm dros lunio'r cyfansoddiad newydd gan gynnwys yr angen i egluro nifer o amheuon a sefyllfaoedd oedd yn parhau o'r statud flaenorol. Ysgrifennwyd y ddogfen yn y Wyddeleg a'r Saesneg, gyda'i gilydd, ac nid drwy ysgrifennu yn y Saesneg ac yna chyfieithu i'r Wyddeleg fel tybia rhai.

Roedd gwaith de Valera yn ffrwythlon iawn, ac roedd ieithwedd y Cyfansoddiad yn glir yn ei iaith dechnegol ac yn fanwl gywir yn ei gynnwys.

Mandad

golygu

Cafodd y cyfansoddiad newydd ei drafpd gan yr unig siambr a oedd yn bresennol yn y senedd Iwerddon ar y pryd (ceir dwy siambr bellach), ac yna cafodd ei gymeradwyo mewn refferendwm ar 14 Gorffennaf 1937. Daeth y cyfansoddiad i rym ar 29 Rhagfyr 1937 gan ddenu sylw ryngwladol.[2]

Ymhlith y gwrthwynebwyr mwyaf i'r cyfansoddiad newydd oedd pleidiau Fine Gael, y Blaid Lafur, Undebwyr, a rhai ffeministaid ac ymysg y cefnogwyr mwyaf selog oedd aelodau plaid Fianna Fáil (plaid de Valera). Y cwestiwn a ddodwyd i'r pleidleiswyr oedd; "Do you approve of the Draft Constitution which is the subject of this plebiscite?".

Refferdwm Derbyn Cyfansoddiad Iwerddon[3]
Dewis Pleidleisiau %
  Ydy / Ie 685,105 56.52
No 526,945 43.48
Pleidleisiau cymwys 1,212,050 90.03
Pleidleisiau anghymwys 134,157 9.97
Cyfanswm pleidleisiau 1,346,207 100.00
Etholwyr cofrestredig a nifer angenrheidiol 1,775,055 75.84

Prif bwyntiau

golygu

Mae cyfansoddiad yr Iwerddon yn cynnwys rhagair a hanner cant o erthyglau wedi'u rhannu'n un ar bymtheg o grwpiau, a ddangosir isod:

Y Genedl (1-3)
Y Wladwriaeth (4-11)
Y Llywydd (12-14)
Y Senedd (15-27)
Y Llywodraeth (28)
Cysylltiadau Rhyngwladol (29)
Y Twrnai Cyffredinol (30)
Y Cyngor Gwladol (Council of State) (31-32)
Yr Archwilydd a'r Archwilydd Cyffredinol (33)
Y Llysoedd (34-37)
Penaethiaid Achosion (38-39)
Yr Hawliau Sylfaenol (40-44)
Egwyddorion Sylfaenol Polisi Cymdeithasol (45)
Diwygiad i'r Cyfansoddiad (46)
Refferendwm (47)
Diddymu cyfansoddiad Gwladwriaeth Rhydd Iwerddon a pharhad y deddfau (48-50)

Rhagair

golygu

Mae'r testun canlynol yn gyfieithiad answyddogol o'r Saesneg:

'Yn enw'r Drindod mwyaf Sanctaidd, oddi wrth bwy i bob awdurdod ac i bwy y mae'n rhaid cyfeirio at gamau dynion a Gwladwriaethau fel ein terfyn olaf, yr ydym ni, pobl Éire, gan gydnabod ein holl rwymedigaethau i'n Harglwydd Dwyfol, Iesu Grist, yr hwn bu'n cynnal ein tadau trwy ganrifoedd o brawf, yn ddiolchgar, gofio eu hymdrech anferthol ac di-derfyn i adennill annibyniaeth cywir ein cenedl. Gan ymdrechu i hyrwyddo'r daioni cyffredin mewn sylw cywir ar Gochelgarwch, Cyfiawnder ac Elusen, fel gall urddas a rhyddid yr unigolyn gael eu sicrhau, gwir drefn cymdeithasol ei chanfod, ailddatgan undod ein gwlad a choncord wedi'i sefydlu gyda gwledydd eraill, drwy hyn, yn mabwysiadu, deddfu a rhoi'r cyfansoddiad yma i'n hunain.

Nodweddion y Genedl a'r Wladwriaeth

golygu
  • Sofraniaeth Genedlaethol: Mae'r cyfansoddiad yn datgan yn erthygl 1 hawl pobl Iwerddon i hunan-lywodraeth. Mae'r Wladwriaeth yn sofran ac yn annibynnol (erthyl.5).
  • Iwerddon Undeig: Mae gan unrhyw un a anwyd ar ynys Iwerddon yr hawl i fod yn ddinesydd Gwyddelig, ond mae ganddo o leiaf un rhiant â dinasyddiaeth lawn (Erthygl 2). Yn Erthygl 3 datganir bwriad ac ewyllys pobl Iwerddon i ffurfio cenedl unedig, ac i ddilyn nod undeb cenedlaethol drwy gyfrwng heddychlon a chydsyniad trigolion Gogledd Iwerddon.
  • Enw'r Cenedl: Enw swyddogol y genedl yw Éire, ond yn ôl y gyfraith weriniaethol yn 1949 fe'i hymestynnir yn Weriniaeth Iwerddon.
  • Y Faner Genedlaethol: Baner genedlaethol Iwerddon yw'r trilliw gwyrdd, gwyn ac oren, a osodwyd mewn tair colofn fertigol o faint cyfartal.
  • Y Brifddinas: Rhaid bod y senedd a llywydd y wladwriaeth fod wedi eu lleoli yn, neu o gwmpas, Dulyn, (o dan erth.15 ac erth.12).
  • Sofraniaeth boblogaidd: datgenir bod sofraniaeth "yn dod, o dan Dduw, o'r bobl" (erth.6)

Yr Iaith Swyddogol

golygu

Fe'i sefydlwyd yn y cyfansoddiad mai Gwyddeleg yw iaith swyddogol y Gladwriaeth Iwerddon tra mai Saesneg yw'r ail iaith.

Yn ôl y cyfansoddiad, dylai'r cyfreithiau fod wedi sefydlu ym mha swyddi llywodraethol y byddai'r Saesneg yn cael ei defnyddio ac y mha rhai, y Wyddeleg, ond bu'n anghydfod yn annelwig.

Fodd bynnag, mae enw rhai cyrff y wladwriaeth a'r llywodraeth yn orfodol yn y Wyddeleg, er enghraifft, Arlywydd yw Uachtará a phrif weinidog yw Taoiseach a'r senedd yn Oireachtas.

Newidiadau i'r cyfansoddiad

golygu

Dim ond drwy refferendwm y gellir newid y cyfansoddiad. Gall pob dinesydd 18 neu hŷn, bleidleisio ynddo.

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://web.archive.org/web/20110721123433/http://www.constitution.ie/constitution-of-ireland/default.asp?UserLang=EN
  2. https://trove.nla.gov.au/newspaper/article/2450025?searchTerm=%22Irish+Free+State%22+AND+%28Constitution%29
  3. "Referendum Results" (PDF). Department of the Environment, Community and Local Government. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 8 Mawrth 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Dolenni allanol

golygu