Urdd y Gardas

(Ailgyfeiriad oddi wrth Urdd y Gardys)

Urdd farchogaidd a sefydlwyd yn Nheyrnas Lloegr gan y Brenin Edward III ym 1348 yw Ardderchocaf Urdd y Gardas (Saesneg: the Most Noble Order of the Garter), neu weithiau yn Gymraeg Urdd y Gardas Aur. Hon yw'r bennaf urdd o farchogion yng nghyfundrefn anrhydeddau'r Deyrnas Unedig, a'r urdd hynaf o'i math yn Ewrop. Yn ôl trefn blaenoriaeth y Deyrnas Unedig, dim ond Croes Fictoria a Chroes Siôr sydd yn uwch nag Urdd y Gardas. Mae teyrn y Deyrnas Unedig—ar hyn o bryd, y Frenhines Elisbaeth II—yn dwyn y teitl Uchel Feistr Urdd y Gardas, ac yn bennaeth ar 25 o farchogion, gan gynnwys Tywysog Cymru.

Arms of the Most Noble Order of the Garter.svg
Arwyddlun Urdd y Gardas.
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolorder of chivalry Edit this on Wikidata
Mathorders, decorations, and medals of the United Kingdom Edit this on Wikidata
Label brodorolThe most noble order of the garter edit this on wikidata
Dechrau/Sefydlu1348 Edit this on Wikidata
SylfaenyddEdward III, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Enw brodorolThe Most Noble Order of the Garter Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gwisg yr urdd yn cynnwys gardas melfed glas, gyda'r arwyddair mewn llythrennau euraid—a wisgir ar y goes chwith o dan y pen-glin—mantell felfed las gyda llen fewnol o sidan gwyn, a swrcot â chwfl a choler euraid ac enamel. Mae menywod hefyd yn gwisgo gwregys ar draws yr ysgwydd chwith.[1] Mae arwyddlun yr urdd yn cynnwys croes San Siôr ar darian, wedi ei hamgylchynu gan y gardas glas ei hun ac arni'r arwyddair Honi soit qui mal y pense (Ffrangeg Canol am "cywilydd ar yr un sydd yn meddwl drwg ohono").

CyfeiriadauGolygu

  1. Chris Cook, Macmillan Dictionary of Historical Terms, ail argraffiad (Llundain: Macmillan, 1990), t. 146.