Uwch Glwstwr Virgo

(Ailgyfeiriad o Uwch Glystwr Virgo)

Uwch glwstwr galaethol sy'n cynnwys y Grŵp Lleol, grŵp o alaethau sy'n cynnwys yn ei dro y Llwybr Llaethog (ein galaeth ni) a galaeth Andromeda yw Uwch Glwstwr Virgo neu'r Uwch Glwstwr Lleol fel y'i gelwir weithiau.

Uwch Glwstwr Virgo
Enghraifft o'r canlynoluwch glwstwr Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1953 Edit this on Wikidata
Rhan oUwch Glwstwr Laniakea Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGrŵp Lleol, Clwstwr Fornax, Galaeth Virgo, Grŵp IC 342/Maffei, Clwstwr Eridanus, Grŵp M94, Grŵp Sculptor, Grŵp M81, Grŵp M96, Grŵp Centaurus A/M83, Grŵp NGC 1023, Llen Leol Edit this on Wikidata
CytserVirgo Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Uwch Glwstwr Virgo

Y ddisg a'r corongylch

golygu

Rhennir yr Uwch Glwstwr yn ddwy ran: ei ddisg a'i gorongylch (halo). Mae'r ddisg yn gywasgedig ac o ffurf fflat fel crempog ac mae'n cynnwys tua 60% o alaethau disglair Uwch Glwstwr Virgo. Mae'r corongylch yn cynnwys sawl gwrthrych ymestyniedig, ac yno y ceir tua 40% o alaethau disglair yr Uwch Glwstwr.

Tryfesur a nodweddion eraill

golygu

Tryfesur yr Uwch Glwstwr yw tua 200 miliwn blwyddyn goleuni; mae'n cynnwys tua 100 o grwpiau a chlystyrau o alaethau ac mae'n cael ei ddominyddu gan Glwstwr Virgo ger ei ganol. Lleolir ein Grŵp Lleol yn agos at ymyl yr Uwch Glwstwr ac mae'n cael ei atynu'n araf tuag at Glwstwr Virgo[1]. Mae'n bwnc ansicr o hyd a fydd y Grŵp Lleol a chlystyrau eraill, ar ryw bwynt yn y dyfodol pell, yn cael eu "bwyta" gan y Galaeth Virgo A anferth[2].

Yn ei dro, mae'r Uwch Glwstwr Lleol cyfan (Virgo) yn cael ei dynnu at anomali disgyrchiant anferth iawn a adnabyddir fel yr Atynydd Mawr, sy'n gorwedd ger Clwstwr Norma.

Rhaniadau

golygu

Ymrennir Uwch Glwstwr Virgo Supercluster yn sawl grŵp o glystyrau a elwir yn gymylau galaethau. Gorwedd tri o'r cymylau hyn ar y ddisg, sef Clwstwr Virgo, Cwmwl Canes Venatici (Grŵp M94) a Chwmwl Virgo II. Mae'r corongylch yn cynnwys nifer o gymylau ymestynedig sy'n cyfeirio at Glwstwr Virgo.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-03. Cyrchwyd 2008-09-19.
  2. "Gweler The Virgo Cluster and the Local Group of Galaxies at". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-05. Cyrchwyd 2008-09-19.