Blwyddyn golau

(Ailgyfeiriad o Blwyddyn goleuni)

Mae blwyddyn golau (symbol rhyngwladol: ly, seiliedig ar yr enw Saesneg, light year) yn uned fesur o hyd, yn benodol y pellter y mae golau yn teithio mewn gwactod (vacuum) mewn blwyddyn. Er nad oes penderfyniad awdurdodol ar ba flwyddyn galendraidd i'w defnyddio, mae'r Undeb Seryddol Rhyngwladol (IAU) yn argymell y flwyddyn Julian.

Blwyddyn golau
Enghraifft o'r canlynoluned mesur hyd, non-standard unit, uned sy'n deillio o UCUM, cysonyn ffisegol, cysonyn UCUM Edit this on Wikidata

Gwerth rhifol golygu

Mae un flwyddyn golau yn cyfateb i:

Pellterau mewn blynyddoedd golau golygu

Mae pellterau a fesurir mewn 'ffracsiynau blwyddyn golau' yn cael eu defnyddio ar gyfer gwrthrychau o fewn cyfundrefn heulog fel ein Cysawd yr Haul ni.

Mae pellterau a fesurir mewn 'blynyddoedd golau' yn cynnwys y pellterau rhwng sêr agos, fel y rhai mewn breichiau troellog neu glysterau globiwlar.

Defnyddir y 'cilo-flwyddyn golau' (kilolight-year; "kly"), sy'n 1,000 blwyddyn golau, neu tua 307 parsec, i fesur pellterau rhwng rhannau o'r un galaeth yn bennaf.

Mae un 'mega-flwyddyn golau' (megalight-year; "Mly"), yn un filiwn blwyddyn golau, neu tua 306,600 parsec. Defnyddir mega-flynyddoedd golau fel rheol i fesur pellteroedd rhwng galaethau cymdogol a chlysterau galaethau.

Mae un 'giga-flwyddyn golau' (gigalight-year, "Gly"), yn un o'r mesurau mwyaf sy'n bodoli: un biliwn (1000000000) blwyddyn golau. Mae un giga-flwyddyn golau yn o gwmpas 306.6 miliwn parsec neu, yn fras, un rhan mewn 13 (1/13) o'r pellter i orwel y bydysawd gweladwy. Fel rheol defnyddir unedau giga-flwyddyn golau i mesur y pellter i wrthrychau uwchalaethol, fel clysterau o quasars neu'r Mur Mawr.

Rhestr urddau magnitiwd hyd
Ffactor (ly) Gwerth Eitem
10−9
40.4 e-9 ly Mae goleuni'r haul a adlewyrchir gan wyneb y Lleuad yn cymryd 1.2-1.3 eiliad i gyrraedd wyneb y Ddaear.

(Mae'r Lleuad tua 384400 kilomedr o'r Ddaear, ar gyfartaledd. 384400 km ÷ 300000 km/eiliad (tua cyflymder golau) ≈ 1.28 eiliad)

10−6
15.8 e-6 ly Un uned seryddol (AU) (y pellter o'r Haul i'r Ddaear). Mae'n cymryd tua 8.31 munud i olau deithio'r pellter hwn.[1]
10−3
1.5 e-3 ly Roedd Voyager 1, y prôb mwyaf pell hyd yn hyn, tua 13 oriau golau i ffwrdd o'r Ddaear ym Medi 2004. Cymerodd Voyager 27 blwyddyn i deithio'r pellter hynny.[2]
100
2 e0 ly Mae'r Cwmwl Oort tua 2 flwyddyn golau mewn diamedr.
4.21 e0 ly Y seren agosaf (heblaw'r Haul), yw Proxima Centauri sydd o gwmpas 4.22 blwyddyn golau i ffwrdd.[3][4]
103
26 e3 ly Mae canol galactig ein galaeth, y Llwybr Llaethog, tua 8 kiloparsec i ffwrdd.[5][6]
100 e3 ly Lled ein Galaeth ni yw tua 100,000 blwyddyn golau.
106
2.5 e6 ly Mae Galaeth Andromeda tua 2.5 mega-flwyddyn golau i ffwrdd.
3.14 e6 ly Galaeth Triangulum (M33), ar 3.14 mega-flwyddyn golau o bellter, yw'r gwrthrych mwyaf pell i ffwrdd y gellir ei weld â'r llygaid.
59 e6 ly Mae'r clwster galaethau mawr agosaf, Clwster Virgo, tua 59 mega-flwyddyn golau i ffwrdd.
150 e6 - 250 e6 ly Mae'r Atynydd Mawr yn gorwedd ar bellter o rwng 150 a 250 mega-flwyddyn golau i ffwrdd.
109
1 e9 ly Amcangyfrir fod Mur Mawr Sloan (ni ddylid ei gymysgu â'r Mur Mawr cyffelyb) tua 1 giga-flwyddyn golau i ffwrdd.
46.5 e9 ly Mae'r pellter cydsymudol o'r Ddaear i ymyl y bydysawd gweladwy yn mesur tua 46.5 giga-flwyddyn golau mewn unrhyw un cyfeiriad; hwn yw radiws cydsymudol y Bydysawd gweladwy.

Cyfeiriadau golygu

  1. Prifysgol Gorllewin Ontario The Sun-Earth Connection Archifwyd 2006-10-02 yn y Peiriant Wayback.
  2. Cyhoeddiad gwasg NASA (05-131) 2005-05-24: Voyager Spacecraft Enters Solar System's Final Frontier Archifwyd 2007-05-24 yn y Peiriant Wayback.
  3. NASA: Cosmic Distance Scales - The Nearest Star
  4. Proxima Centauri (Gliese 551), Encyclopedia of Astrobiology, Astronomy, and Spaceflight
  5. F. Eisenhauer, et al., "A Geometric Determination of the Distance to the Galactic Center[dolen marw]" (pdf, 93KB), Astrophysical Journal 597 (2003) L121-L124
  6. McNamara, D. H., et al., "The Distance to the Galactic Center" (pdf, 298KB), The Publications of the Astronomical Society of the Pacific, 112 (2000), pp. 202–216.

Gweler hefyd golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cilo-flwyddyn golau, mega-flwyddyn golau, giga-flwyddyn golau o'r Saesneg "kilolight-year, megalight-year, gigalight-year". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.